Mae DAU berchennog cŵn anghyfrifol wedi mynd ‘am dro' i'r llys, gan adael yno gyda dirwyon a chostau o bron i £1,000!
Cafodd y ddau berchennog anghyfrifol eu dal yn torri rheolau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) drwy adael i'w cŵn faeddu mewn man cyhoeddus a methu â chodi’r baw, gan adael y baw fel malltod ffiaidd ar Rondda Cynon Taf.
Gadawodd un o drigolion Rhydfelen i'w ci faeddu ar stryd boblogaidd yn yr ardal a methodd â chodi’r baw. Derbyniodd yr unigolyn ddirwy o £220, costau o £120 a gordal dioddefwyr o £88 – sef cyfanswm o £428.
Gadawodd yr ail drigolyn i'w ci grwydro ar ardal dan gyfyngiadau ar Faes Hamdden Abercynon. Derbyniodd yr unigolyn ddirwy o £220, costau o £120 a gordal dioddefwyr o £88 – sef cyfanswm o £428.
Mae'r neges i berchnogion cŵn anghyfrifol yn syml: 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR GAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi'u paentio'n felyn llachar ar strydoedd, ffyrdd, caeau a mannau lle mae perchnogion yn mynd â chŵn am dro. Mae'r neges yno YN GLIR i bawb ei gweld.
Mae'r neges gan y Cyngor yn glir. Os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn cymryd camau gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100.
Mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma wedi sylweddoli bod peidio â thalu’r ddirwy yn arwain at achos llys a dirwy llawer yn fwy. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Un o bryderon allweddol y Gorchymyn a gyflwynwyd CHWE blynedd yn ôl yn Rhondda Cynon Taf (mis Hydref 2017) oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon – oherwydd hyd yn oed os yw'r baw yn cael ei godi, bydd darnau ohono yn aros ar y glaswellt a'r pridd. Mae nid yn unig yn ffiaidd ond gallai hefyd arwain at ganlyniadau iechyd difrifol sy'n newid bywyd rhywun.
Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Y Cyngor oedd y cyntaf i gyflwyno mesurau llym o ran rheoli cŵn. Fel y gwelwch chi yn yr achos yma, mae'r gwaith caled yn parhau wrth i'r garfan orfodi ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a'u dwyn i gyfrif BOB TRO.
Bydd staff Gorfodi Gofal y Strydoedd hefyd yn gweithio oriau estynedig i sicrhau na fydd modd i berchnogion cŵn anghyfrifol ddod o hyd i unrhyw le i guddio – hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu!
Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i glybiau chwaraeon roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni roi cymorth a chydweithio â nhw er diogelwch y chwaraewyr.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
“Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond yn anffodus mae angen i rai perchnogion cŵn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae'n ddolur llygad brwnt ar ein Bwrdeistref Sirol ac mae ganddo oblygiadau iechyd difrifol i'r gymuned. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared â’r broblem yma.
"Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion a gweld y broblem â fy llygaid fy hun, bydd y Wardeiniaid Cymunedol a'r garfan orfodi yn gweithio ar y cyd i gynyddu'r presenoldeb ar ein strydoedd i fynd i'r afael â phroblem sy'n cael effaith fawr ar ein caeau chwaraeon.
"Byddai'n well gan y Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a pherchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon. Mae modd osgoi hyn os ydyn ni i gyd yn dilyn y negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. Mae'r rheolau yn amddiffyn pawb sydd am fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd."
I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/cwnynbaeddu.
Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CiAmDro
Wedi ei bostio ar 16/11/2023