Skip to main content

Angen cau ffyrdd yng nghanol tref Pontypridd ar ddau ddydd Sul

Pontypridd Town Centre 2023 (3) - Copy

Nodwch, bydd sawl stryd yn Canol Tref Pontypridd ar gau i draffig ar ddau ddydd Sul yn olynol o ganlyniad i waith ar safle'r hen neuadd bingo sy'n dechrau'r penwythnos yma.

Bydd y ffordd ar gau i ddechrau rhwng 8am a 6pm ddydd Sul, 19 Tachwedd ac yna unwaith yn rhagor ddydd Sul, 26 Tachwedd.

Bydd y contractwr, Prichard’s, yn gosod cyswllt draenio ar draws y ffordd, yn rhan o’r gwaith paratoi parhaus ar safle’r hen neuadd bingo, cyn y gwaith ailddatblygu.

Bydd y strydoedd fydd ar gau yn cynnwys Stryd y Taf (o’i chyffordd â Stryd yr Eglwys, i gyfeiriad y de), hyd cyfan y Stryd Fawr (o’i chyffordd â Stryd y Taf hyd at ei chyffordd â’r A4058, Heol Sardis), Stryd y Felin (rhwng rhif 1 a rhif 11a) a Stryd y Farchnad (o’i chyffordd â Stryd yr Eglwys hyd at ei chyffordd ddeheuol â Stryd y Taf).

Bydd llwybr amgen i gerbydau ar hyd Stryd Traws y Nant, Heol Gelliwastad, Stryd y Santes Catrin a’r A4058 Heol Sardis.

Nodwch fydd modd i gerbydau fynd ar hyd ochr ogleddol Stryd y Taf hyd at Stryd y Farchnad cyn mynd ar hyd Stryd yr Eglwys gan ymuno â'r llwybr amgen ar Stryd y Santes Catrin.

Bwriwch olwg ar fap o'r ardal sydd wedi'i chau ar wefan y Cyngor, yma.

Bydd mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys a cherddwyr. Bydd mynediad ar gael at eiddo hyd at ochr ogleddol cyffordd Stryd y Taf / Stryd y Farchnad.

Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a cherdded drwy'r ardal sydd wedi'i chau.

Ni fydd unrhyw wasanaethau bysiau lleol yn cael eu heffeithio gan yr ardal sy'n cau ar y ddau ddydd Sul.

Diolch am eich cydweithrediad ymlaen llaw wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Wedi ei bostio ar 16/11/23