Skip to main content

Diwrnod y Rhuban Gwyn - Gwylnos yng Ngolau Cannwyll 2023

Leader & Deputy (2)

Ar 24 Tachwedd, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arddangos ein cefnogaeth barhaus o elusen White Ribbon UK, drwy gynnal ein gwylnos yng ngolau cannwyll yng nghanol tref Pontypridd. Hon fydd y 9fed blwyddyn i ni gefnogi'r elusen.

Yn unol â'r blynyddoedd blaenorol, mae'r achlysur yn ceisio codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd, sydd hefyd yn cael ei nodi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.

Bydd yr wylnos yn dechrau am 5.30pm ar Stryd y Taf, y tu allan i adeilad Llys Cadwyn y Cyngor. Bydd Alex Davies Jones, AS Pontypridd yn agor yr achlysur, wedi'i ddilyn gan drafodaethau gan y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a sylwadau i gau'r achlysur gan y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau. Bydd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf hefyd yn perfformio drama fer, a byddwn ni'n cynnig cyfle i aelodau o'r cyhoedd osod canhwyllau batri bach yn ystod ein gwylnos yng ngolau cannwyll.

Rydyn ni'n croesawu unrhyw un fyddai'n hoffi mynd i'r achlysur i ddangos eu parch a chefnogaeth gyda ni, wrth i ni gofio am y menywod a merched hynny sydd wedi marw cyn eu hoes o ganlyniad i drais gan ddynion.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'r Cyngor yma'n addo i barhau i flaenoriaethu a buddsoddi mewn gwasanaethau, adnoddau, addysg a pholisïau sy'n canolbwyntio ar atal trais yn erbyn menywod a merched yn ein Bwrdeistref Sirol.

"Mae diogelu ein trigolion gan sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu niwed wrth wraidd popeth a wnawn yma yn y Cyngor, ac rydyn ni'n dangos hyn drwy gyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi'u hamlinellu yn ymgyrch #NewidyStori yr elusen.

"Mae hyn yn cynnwys parhau i ddangos bod #ModdiBobDyn gymryd rôl actif wrth atal trais yn erbyn menywod a merched.

"Gyda'n gilydd, mae modd i ni sicrhau bod y troseddwyr yn atebol gan addysgu dynion a bechgyn i herio'r arferion cymdeithasol sy'n caniatáu i drais a niwed barhau yn ein cymunedau".

Diwrnod y Rhuban Gwyn yw'r fenter fwyaf yn fyd-eang i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod a merched i ben. Mae'i ymgyrchoedd wedi bod ar flaen y gad o ran galw ar ddynion i wneud dewisiadau a gweithredoedd cyson i nodi ac atal ymddygiad niweidiol sy'n arwain at drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched.

Meddai Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd:

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael cefnogi Rhondda Cynon Taf unwaith eto i drefnu gwylnos yng ngolau cannwyll Diwrnod y Rhuban Gwyn. Bydd yr achlysur blynyddol yma'n rhoi cyfle pwysig i ni gofio a galaru am y menywod a merched hynny sydd wedi colli eu bywydau oherwydd trais gan ddynion.

"Nid mater i fenywod yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’n dechrau pan fyddwn ni’n #NewidYStori. Mae gan bob dyn ran i'w chwarae wrth ddod â thrais yn erbyn menywod gan ddynion i ben ac mae'n hollbwysig eu bod nhw'n arwain drwy esiampl fel cynghreiriaid cryf.

"Mae angen i bob un ohonom godi ein llais a herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n ymddangos yn ‘ddiniwed’ sy’n golygu bod trais yn erbyn menywod a merched yn parhau. Rwy'n gobeithio gweld cymaint o bobl yn sefyll mewn undod yn yr wylnos yng ngolau cannwyll."

Eleni, drwy ei hymgyrch #NewidyStori, mae'r elusen wedi galw ar sefydliadau ac unigolion i herio'r agweddau ac ymddygiadau sy'n ymddangos yn 'ddiniwed' sy'n bytholi trais gan newid y naratif o ran diogelwch menywod. Dyw trais yn erbyn menywod ddim yn broblem i fenywod yn unig a dylai menywod ddim bod yn gyfrifol am reoli bygythiadau i'w diogelwch eu hunain.

Byddwn ni fel Cyngor yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Camdrin Domestig Rhondda Cynon Taf, ac ein darparwyr tai lleol er mwyn cynnal y lefel uchaf o gymorth y mae modd i ni ei darparu, er mwyn helpu a diogelu ein trigolion rhag gorfod byw mewn ofn trais.

Meddai Prif Weithredwr elusen White Ribbon UK, Anthea Sully: "Mae dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben yn dechrau wrth i ni #NewidyStori a does dim modd i ni wneud hynny heb arweinyddiaeth wleidyddol.

Mae modd i gynghorau wneud gwahaniaeth sylweddol i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Drwy weithio gyda'n gilydd, mae modd i ni newid pethau. Mae modd i'ch rôl chi hyrwyddo a gwella'r gefnogaeth yma.

Gyda'n gilydd, mae modd i ni #NewidyStori er mwyn dod â thrais ar sail rhyw yn erbyn pob menyw a merch i ben"

 O ganlyniad i hyn, byddwn ni'n cymryd rhan yn 16 Diwrnod o Ymgyrchu yr elusen yn erbyn Trais ar Sail Rhyw, gan fynychu ei hachlysuron arbenigol ar-lein, a gwisgo rhuban gwyn ar 25 Tachwedd yn symbol o'n datganiad i beidio â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a merched.

Rydyn ni'n gobeithio eich croesawu chi i'r wylnos yng ngolau cannwyll eleni, gan wisgo eich rhubannau gwynion wrth i ni annog pawb i gymryd rhan yn yr 16 Diwrnod o Ymgyrchu yn erbyn Trais ar Sail Rhyw.

Gyda'n gilydd, mae modd i ni #NewidyStori.

Wedi ei bostio ar 13/11/23