Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru wedi ymweld â’r Bont Tramiau Haearn yn Nhrecynon – gan ddathlu’r gwaith o adfer ac ailagor yr Heneb Gofrestredig a’r Adeilad Rhestredig Gradd II a godwyd ar ddechrau’r 1800au.
Roedd y bont eisoes mewn cyflwr gwael cyn derbyn difrod pellach yn ystod Storm Dennis, ac mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Cadw i ddylunio cynllun adfer cymhleth. Cafodd y bont wreiddiol ei chynhyrchu dros 200 mlynedd yn ôl gan Ffowndri Aber-nant i gludo'r dramffordd i Drecynon. Un o’r nodau allweddol fu adfer yr adeiledd hanesyddol mewn modd sy'n defnyddio llawer o'r elfennau gwreiddiol, er mwyn cadw ei arwyddocâd diwylliannol a’i olwg hanesyddol.
Ystyriwyd mai strwythur hybrid oedd yr ateb hirdymor mwyaf priodol, gan adfer bron pob un o elfennau strwythurol gwreiddiol y bont er mwyn eu harddangos fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae cydrannau modern wedi'u defnyddio i sicrhau hirhoedledd a chadwraeth y strwythur. Mae rhagor o fanylion am elfennau'r strwythur adferedig wedi'u cynnwys ar waelod y diweddariad yma.
Rhoddodd Cadw gydsyniad Heneb Gofrestredig ym mis Mehefin 2023, gan ganiatáu i waith fynd rhagddo dros fisoedd yr haf. Cafodd y gwaith terfynol ei gwblhau ar ddechrau mis Hydref, gan gynnwys ailadeiladu'r waliau cerrig wrth ddynesu at y bont. Mae'r strwythur bellach wedi ailagor, gan gynnal yr hawl tramwy cyhoeddus dros Afon Cynon.
Fe ddaeth Dawn Bowden AS i'r safle yn Nhrecynon i ddathlu'r gwaith o adfer y bont Ddydd Llun, 30 Hydref. Yn ogystal, fe ymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE; Dr Jonathan Berry, Uwch Arolygydd Henebion ac Archaeoleg Cadw; Vikki Howells, yr Aelod Senedd dros etholaeth Cwm Cynon; a chynghorwyr ward lleol hefyd.
Er bod y prosiect bellach wedi'i gwblhau i raddau helaeth, mae rhywfaint o waith bach iawn yn weddill - gan gynnwys gosod dau folard a rhan ychwanegol o reilen law. Bydd y contractwr yn gosod yr elfennau hyn maes o law.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â’r Bont Tram Haearn yn Nhrecynon, a chroesawu’r Dirprwy Weinidog i ddod i weld ein prosiect adfer gorffenedig sydd wedi cadw darn pwysig o hanes yng Nghwm Cynon. Cafodd y bont ei hadeiladu ar ddechrau'r 1800au i gynnal yr hen dramffordd, ac mae'n Heneb Gofrestredig sy'n dangos tystiolaeth o'r dulliau adeiladu a gafodd eu defnyddio dros 200 mlynedd yn ôl.
“Mae’r Cyngor wedi croesawu cefnogaeth hanfodol gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r cynllun, yn rhan o raglen ehangach o atgyweiriadau yn dilyn Storm Dennis sy’n cael ei gynnal yn 2023/24. Mae'r rhaglen, sy'n cynrychioli buddsoddiad gwerth tua £20 miliwn ar gyfer Rhondda Cynon Taf, hefyd yn ariannu cynlluniau atgyweirio mawr fel Pont Castle Inn yn Nhrefforest, y Bont Wen ym Mhontypridd, a Phont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail.
“Rydyn ni hefyd wedi croesawu arweiniad pwysig gan Cadw i gyflawni’r cynllun Pont Tramiau Haearn – ac roeddwn i'n falch o groesawu’r Doctor Jonathan Berry ddydd Llun. Cymerodd y broses adfer gyffredinol amser hir, ond roedd yn bwysig ein bod ni'n cyflawni pob manylyn yn gywir – gan weithio gyda chontractwyr arbenigol i archwilio’r difrod, ac yna dylunio’r ateb gorau. Mae'r prosiect terfynol yn gynllun hybrid sy'n defnyddio llawer o elfennau gwreiddiol y bont wrth hefyd ddiogelu'r strwythur at y dyfodol - ac mae mewnbwn Cadw drwy gydol y broses wedi bod yn werthfawr iawn.
“Er bod mân waith i’w gwblhau o hyd, mae’r cynllun bellach wedi’i gwblhau i raddau helaeth. Rydyn ni wedi adfer y tirnod hanesyddol yma, a’r hawl tramwy cyhoeddus sydd arno, er budd y gymuned. Hoffwn ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i’r prosiect yma gael ei ddatblygu a’i gyflawni.”
Meddai Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Roeddwn i'n falch iawn o gael fy ngwahodd i achlysur ail-agor y bont hanesyddol yma sydd ag arwyddocâd cenedlaethol. Mae’n bwysig bod y buddsoddiad yma wedi’i wneud er mwyn sicrhau'r bont er budd a mwynhad y genhedlaeth yma a chenedlaethau’r dyfodol.
“Rwy’n effro i’r difrod helaeth i’r strwythur a’r cyngor arbenigol a’r atgyweiriadau cadwraeth medrus a oedd eu hangen i’w atgyweirio a’i adfer. Mae'r prosiect yma'n enghraifft arbennig o dda o ddilyn Egwyddorion Cadwraeth Cadw i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn cael eu harwain gan dreftadaeth, a bod gwerthoedd treftadaeth a dilysrwydd y bont yn cael eu cynnal.
“Bydd ein hinsawdd sy’n newid yn niweidio asedau treftadaeth dynodedig sydd yn ein hafonydd, drostyn nhw neu'n gyfagos â nhw yng Nghymru. Un elfen arbennig o ganmoladwy o'r prosiect yma yw'r mesurau addasu a gafodd eu defnyddio i atal y bont rhag cael ei tharo a'i difrodi gan wrthrychau sy'n cael eu cludo gan ddŵr yn y dyfodol. Mae'r bont wedi'i thynnu oddi ar gofrestr Cadw o Henebion sydd mewn Perygl, ac mae wedi'i hailagor fel hawl tramwy cyhoeddus - mae'r rhain yn gyflawniadau gwych ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a oedd yn rhan o bethau.”
Manylion pellach am y strwythur wedi'i adfer
Mae trawstiau haearn bwrw gwreiddiol a phlatiau dec y bont wedi'u hadfer. Cafodd tair ffrâm adeileddol sy'n dal pwysau eu hychwanegu i drosglwyddo'r dec i ffwrdd o'r trawstiau. Cafodd y rhain eu paentio'n ddu i gyd-fynd â'r elfennau gwreiddiol. Cafodd y trawstiau eu hadfer, ynghyd â'r rheilen law gyda marc y gwneuthurwr arno. Cafodd bachau platiau dec eu hail-gysylltu â'r trawstiau fel nodwedd ddilys ac esthetig. Dydy'r ategweithiau ddim wedi'u newid llawer, gyda pheth gwaith carreg wedi'i dynnu i wneud lle i'r elfennau strwythurol newydd. Cafodd parapetau newydd eu cynnwys ar frig pob ategwaith yn dilyn tystiolaeth o rai cynharach a gafodd eu darganfod yn ystod gwaith ymchwil archeolegol.
Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys gosod trawst amddiffyn rhag gwrthdrawiad sy'n sefyll ar ei ben ei hun i fyny'r afon o'r bont, i atal gwrthrychau rhag taro'r strwythur.
Wedi ei bostio ar 30/10/23