Skip to main content

Dweud eich dweud yn rhan o'n hadolygiad o fannau pleidleisio

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal adolygiad o ddosbarthau pleidleisio etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Seneddol y DU ar draws y sir.  Bydd proses ymgynghori chwe wythnos mewn perthynas â'r adolygiad yn dechrau ddydd Llun, 9 Hydref.

Mae'r adolygiad yma, sy'n orfodol yn ôl y gyfraith, yn digwydd pob pum mlynedd. Bydd yr adolygiad yn taro goleuni ar addasrwydd gorsafoedd pleidleisio presennol a lleoliadau amgen posibl, yn ogystal â'r ardaloedd/dosbarthau pleidleisio.

Rydyn ni'n gwahodd unigolion a sefydliadau/rhanddeiliaid sydd â diddordeb i roi adborth yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw berson neu grŵp sydd â phrofiad o weithio ar sicrhau mynediad i orsafoedd pleidleisio i bobl anabl, neu arbenigedd yn y maes hwnnw. Mae hi hefyd yn gyfle i godi unrhyw broblemau o ran hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio presennol.

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adborth ydy 17 Tachwedd 2023. Wedi'r dyddiad yma, bydd pob ymateb yn cael ei adolygu a'i drafod gan y Cyngor yn nes ymlaen eleni. Bydd argymhellion gan y Swyddog Canlyniadau dros dro hefyd yn cael eu trafod.

Byddwn ni'n gweithredu unrhyw newidiadau i'r gofrestr etholiadol o 1 Chwefror 2024 ymlaen a bydd y newidiadau'n dod i rym ymhob etholiad sy'n cael eu cynnal ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae modd i chi weld gwybodaeth berthnasol am yr adolygiad, gan gynnwys rhestr o ardaloedd pleidleisio presennol a'r gorsafoedd pleidleisio sy'n cael eu defnyddio, yn ogystal â sut mae modd i chi gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Ymgynghoriad cyhoeddus - Dweud eich dweud ar-lein https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/ik3gdl

Wedi ei bostio ar 23/10/23