Skip to main content

Cyflwyno Cynllun Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf

Pontypridd High School - RCT Schools Eco Award Launch

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi lansiad ein cynllun Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf ein hunain.

Cafodd yr achlysur lansio ei gynnal yn Ysgol Uwchradd Pontypridd ddydd Gwener 6 Hydref ac roedd y Cynghorydd Lewis (Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg) a'r Cynghorydd Leyshon (Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol) yno.

Yma, cyflwynodd yr Aelodau Gynllun Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf i Gyngor Ysgol Uwchradd Pontypridd a Phwyllgor Eco Ysgol Gynradd Cilfynydd ac eglurodd y disgyblion yn falch y gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud ar hyn o bryd ar lefel ysgol i helpu'r amgylchedd.

Mae Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf wedi’i seilio ar dri chategori penodol, sef ‘Bioamrywiaeth a Natur’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’ ac ‘Arbed Ynni a Charbon’. Ym mhob categori, mae modd i ysgolion ennill gwobrau efydd, arian ac aur.

Mae'r meini prawf ar gyfer pob un o'r categorïau wedi'u datblygu ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd penodol sy'n wynebu ysgolion Rhondda Cynon Taf a'u lleoliadau a'r mathau o adeiladau. Bydd ennill y gwobrau yma'n helpu ysgolion i wneud newidiadau effeithiol, un cam ar y tro, a fydd yn helpu i gyflawni ysgolion mwy gwyrdd, llai gwastraffus ac ecogyfeillgar.

Trwy gyflwyno Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf, byddwn ni hefyd yn gwneud camau cadarnhaol tuag at gyflawni’r ymrwymiadau hinsawdd yn ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd – 'Hinsawdd Ystyriol Rhondda Cynon Taf', gan gefnogi cyfleoedd i bobl o bob oed ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio yn yr economi werdd sy'n datblygu ac i fyw'n fwy cynaliadwy; ac felly, helpu i gyrraedd ein targedau lleihau carbon.

Bydd lefel efydd y wobr yn cael ei lansio'n gyntaf, a bydd yr ysgolion yn derbyn maen prawf penodol y mae'n rhaid ei fodloni yn ogystal ag arweiniad i'w helpu nhw i gyflawni pob agwedd o'r wobr. Bydd lefel arian y wobr yn cael ei lansio yn y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd modd i unrhyw ysgol sy'n cwblhau'r wobr efydd yn llwyddiannus gymryd rhan yn lefel arian y wobr.

Bydd ysgolion sy'n cyflawni pob lefel o'r wobr yn derbyn gwobrau a fydd yn helpu'r ysgol yn eu hymgais i gyrraedd y lefel nesaf. Bydd y gwobrau’n eitemau a fydd nid yn unig yn helpu’r ysgolion gyda’r wobr ond a fydd yn helpu safleoedd yr ysgolion i fod yn fannau mwy gwyrdd ac yn annog yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth leol.

Anogir pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf i gymryd rhan yn y fenter newydd a fydd yn helpu i ddatblygu ymddygiad cynaliadwy ymhlith pobl ifainc, addysg bellach ynghylch newid yn yr hinsawdd, lleihau allyriadau carbon ar draws y Fwrdeistref Sirol a llawer yn rhagor.

Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Rydyn ni'n falch iawn o lansio Cynllun Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan yn y cynllun.

Mae Rhondda Cynon Taf wedi gosod targed iddo'i hun i ddod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030, ac i'r Fwrdeistref Sirol gyfan fod mor agos â phosibl i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 hefyd. Mae hyn yn golygu bod ein holl wasanaethau yn gwneud yr hyn mae angen iddyn nhw ei wneud i amddiffyn y blaned. Bydd pob un ohonon ni hefyd yn chwarae ein rhan i gyfrannu at dargedau niferus Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgais o fod yn sector cyhoeddus Sero Net erbyn 2030 a Chymru Sero Net erbyn 2050.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Lewis – Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg:

"Mae'r Cyngor wedi creu'r cynllun gwobrwyo yma i bob ysgol yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd i ysgolion, staff a disgyblion gynorthwyo’r Cyngor a Llywodraeth Cymru i fwrw eu targedau a chyfrannu at amddiffyn y blaned, lleihau carbon, a chynyddu bioamrywiaeth. Mae'n wych gweld brwdfrydedd Ysgol Uwchradd Pontypridd i gymryd rhan yn y wobr a'i bod eisoes yn cymryd y camau yma.”

Cymerodd Ysgol Uwchradd Pontypridd ran ym menter Plannu Coed y Cyngor yn gynharach eleni, a chafodd 500 o wrychoedd eu plannu ar hyd ffin yr ysgol gyda'r Llwybr Taith Taf. Pan fyddan nhw wedi aeddfedu'n llawn, bydd y planhigion yma'n annog twf bioamrywiaeth ar dir yr ysgol ac yn gweithredu fel ffin naturiol i'r safle.

Mae gwaith adnewyddu ac ailfodelu'r ysgol hefyd yn cael ei wneud gan Morgan Sindall Construction. Ar ôl ei gwblhau, bydd hwn yn darparu cyfleuster cynradd Carbon Sero-Net ar waith yn yr ysgol, gan wneud yr ysgol 3-16 newydd, Ysgol Bro Taf, mor gynaliadwy â phosibl ac yn uno Ysgol Uwchradd Pontypridd ag Ysgol Gynradd Cilfynydd. Mae'r gwaith adnewyddu'n cynnwys nodweddion megis adfer gwres mecanyddol, pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli ffotofoltäig, ac uwchraddiadau inswleiddio thermol uchel i'r adeilad. Hefyd, mae’r contractwr wedi rhoi chwe bocs adar i gefnogi'r ysgol i annog twf bioamrywiaeth.

Mae’r ysgol yn gyffrous i gael y cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf ac wedi cymryd camau cadarnhaol a gwaith enghreifftiol tuag at greu ysgol eco fwy gwyrdd, llai gwastraffus sy’n cynnwys:

  • Disgyblion yn casglu dŵr o'r nant leol ac yn defnyddio rhywogaethau dangosol i wirio lefelau llygredd
  • Disgyblion yn gwneud gwestai i bryfed a bocsys adar ac yn mynd â nhw gartref i gynyddu bioamrywiaeth yn eu gerddi
  • Cael polisi ailgylchu rhagweithiol
  • Llunio polisi TGCh newydd ar gyfer cau cyfrifiaduron personol sydd wedi aros yn segur yn awtomatig
  • Gosod synwyryddion symudiad golau sy'n helpu i dorri costau trydan.

 

Wedi ei bostio ar 17/10/23