Skip to main content

Gwaith gosod pont droed newydd rheilffordd Llanharan y penwythnos nesaf

Llanharan Bridge 1

[WEDI'I DDIWEDDARU AR: 11/10/23 – trefniadau bws dros dro bellach wedi eu cadarnhau, a’u hychwanegu i’r erthygl]

 

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau'r trefniadau er mwyn codi pont droed newydd rheilffordd Llanharan i'w lle. Bydd hyn yn golygu y bydd angen cau Heol Pen-y-bont nos Sadwrn nesaf (14 Hydref) tan fore Sul.

Cafodd y bont droed oedd wedi'i difrodi ar bwys pont y rheilffordd ei dymchwel ac mae'r strwythur newydd wedi cael ei adeiladu oddi ar y safle gwaith. Bydd gwaith gosod y bont droed yn cael ei gynnal rhwng 8pm nos Sadwrn, 14 Hydref ac 8am fore Sul, 15 Hydref.

Bydd craen mawr yn codi'r bont droed i'w lle, er bydd hyn yn ddibynnol iawn ar amodau tywydd addas er mwyn cwblhau'r gwaith mewn modd diogel. Os bydd gwyntoedd cryfion, er enghraifft, bydd angen gohirio gwaith codi'r bont. Mae'r Cyngor wedi sicrhau meddiant o’r rheilffordd ar gyfer yr un amseroedd yn ystod y penwythnos canlynol (21-22 Hydref).

Er mwyn codi'r bont, bydd angen cau Heol Pen-y-bont yn gyfan gwbl, o'i chyffordd â Heol y Capel i gyfeiriad y de-orllewin am bellter o tua 80 metr. Mae map o'r ardal a fydd ar gau a llwybr amgen i’w gweld ar-lein yma.

Bydd llwybr amgen ar gael i fodurwyr ar hyd yr A473 (Teras y Rhosyn, Heol Pen-y-bont a Heol Newydd), Heol Brynna, Teras y Gelli, Rhodfa'r Bryn a'r A473 (Heol Pen-y-bont) - neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall. Ni fydd mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys, beicwyr na cherddwyr.

Trefniadau bws ar gyfer codi’r bont

Yn ystod y gwaith, ni fydd Gwasanaeth 404 Stagecoach sy’n gweithredu gyda’r hwyr (Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ben-y-bont ar Ogwr) yn gallu gwasanaethu Llanharan a Brynna i’r ddau gyfeiriad, ac felly bydd yn dargyfeirio drwy Fryn-cae.

Bydd gwasanaeth bws gwennol AM DDIM yn rhedeg yn ôl ac ymlaen i Safle Bws y Gofeb Ryfel yn Llanharan i wasanaethu Brynna a Llanharan, ac yn cysylltu â Gwasanaeth 404 i’r ddau gyfeiriad yn Safle Bws y Stiwdio Ffilm. Bydd hyn yn galluogi teithwyr i ddefnyddio gwasanaethau i Ben-y-bont ar Ogwr, Llanhari a Thonysguboriau.

Bydd y bws gwennol yn cael ei gynnal gan Bella Road Services, gan ddilyn yr amserlen ganlynol.

Gwaith ychwanegol yn dilyn codi'r bont

Yn niweddariad prosiect diwethaf y Cyngor (22 Medi 2023), amlinellwyd byddai'r gwaith ar y safle'n cael ei gwblhau ar ôl codi'r bont yn llwyddiannus dros bedair i bum wythnos - cyn symud yr holl fesurau rheoli traffig o’r safle.

Bydd gwaith ar y safle'n cynnwys gwaith cwblhau’r camau olaf sy'n ymwneud â'r bont droed, ac wedyn bydd cyfres o waith lleol nad oedd modd ei gwblhau yn ystod cyfnod gwaith cynllun y bont. Bydd croesfan i gerddwyr gyda goleuadau yn cael ei gosod ger Siop Cymuned Llanharan, yn dilyn ceisiadau gan y gymuned ac Aelodau Etholedig er mwyn gwella diogelwch cerddwyr yn yr ardal.

Bydd y Cyngor hefyd yn manteisio ar y cyfle i atgyweirio draeniau priffordd ac yn cyflawni gwaith gosod wyneb newydd ar y briffordd ar yr A473 rhwng y bont a thafarn yr High Corner, gan gynnwys mynedfa Heol y Capel.

Wedi ei bostio ar 06/10/23