Bydd angen cau pont droed Parc Gelligaled yn Ystrad am ddau ddiwrnod er mwyn gosod wyneb newydd. Dyma ran olaf y gwaith parhaus i atgyweirio’r bont.
Bydd y gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher (17-18 Hydref) rhwng 9.30am a 3pm. Bydd y bont yn parhau i fod ar agor yn gynnar yn y bore, yn hwyr yn y prynhawn a dros nos.
Bydd y bont droed, sydd wedi’i lleoli oddi ar Goedlan Pontrhondda, ar gau i gerddwyr a beicwyr yn ystod oriau’r gwaith.
Bydd llwybr amgen ar gael ar hyd yr A4058 Heol Tyntyla – dyma'r un llwybr gafodd ei ddefnyddio pan gaewyd y bont yn flaenorol.
Mae'r cynllun ehangach wedi darparu atgyweiriadau gwaith cerrig a choncrid, gwaith i atal erydu, ynghyd ag ailosod canllawiau’r bont a gwella goleuadau stryd.
Mae'r cynllun wedi cael ei ddarparu yn rhan o raglen sylweddol o atgyweiriadau Storm Dennis ar gyfer 2023/24, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad parhaus wrth i gamau olaf y cynllun fynd rhagddyn nhw.
Wedi ei bostio ar 10/10/2023