Skip to main content

Gosod Pont Hanesyddol y Tramiau Haearn yn dilyn gwaith adnewyddu

Iron Tram bridge - Copy

Mae cydrannau'r Bont Tramffordd Haearn yn Nhrecynon, sydd wedi'u hadnewyddu'n ofalus, bellach yn cael eu cludo yn ôl i'r safle gwaith er mwyn eu gosod. Mae disgwyl i'r Heneb Gofrestredig, gafodd ei hadeiladu ddechrau'r 1800au, ailagor ym mis Hydref.

Dechreuodd prif gam y cynllun dros yr haf wedi i'r Cyngor, gan weithio'n agos â Chadw, dderbyn caniatâd i gynnal cynllun adnewyddu ac ailosod cymhleth ar y strwythur hanesyddol. Cafodd y bont ei difrodi mewn sawl storm gan gynnwys Storm Dennis. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Mehefin 2023.

Cafodd y bont wreiddiol ei hadeiladu yn y 1800au cynnar a chafodd ei chynhyrchu gan Ffowndri Aber-nant i gludo'r dramffordd i Drecynon. Mae bellach â Hawl Tramwy Cyhoeddus dros Afon Cynon ger cylchfan Stryd Meirion ar yr A4059.

Yn dilyn archwiliad o ddifrod y bont gan gontractwyr arbenigol oddi ar y safle, bydd y cynllun yn ailosod y bont yn ofalus gan gadw ei chymeriad mewn strwythur sy'n cyfuno'r hen a'r newydd. Bydd y rhan fwyaf o'r cydrannau strwythurol gwreiddiol yn cael eu hailosod ac yn cael eu harddangos yn y modd oedd wedi'i fwriadu'n wreiddiol. Bydd cydrannau modern yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau hirhoedledd a chadwraeth y bont.

Y newyddion o ran cynnydd - danfon a gosod cydrannau'r bont

Mae'r contractwr, Walters Ltd wedi dechrau derbyn cydrannau mawr y bont yn y safle gwaith er mwyn eu gosod dros yr afon. Dechreuodd y broses yma yn ystod yr wythnos oedd yn dechrau ddydd Llun, 11 Medi, a bydd yn parhau dros y dyddiau nesaf. Bydd rhan Llwybr Cynon gerllaw'r safle yn parhau ar agor - bydd cerddwyr yn cael eu hatal rhag mynd heibio pan fydd craen yn cael ei ddefnyddio i godi cydrannau er mwyn sicrhau diogelwch.

Bydd prif drawstiau bwa'r bont (y trawstiau haearn bwrw gwreiddiol) yn cael eu gosod yr wythnos yma, gyda chydrannau'r strwythur atgyfnerthol dur yn cyrraedd y safle ddechrau'r wythnos nesaf - yr wythnos fydd yn dechrau ddydd Llun, 18 Medi.

Mae modd i'r Cyngor gadarnhau bod disgwyl i'r Bont Tramffordd Haearn agor i gerddwyr yn ôl y disgwyl yng nghanol mis Hydref. Bydd newyddion pellach yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn nodi amlinelliad o'r trefniadau yma. Mae Cadw hefyd yn bwriadu cynnal gwasanaeth coffáu ar y safle er mwyn dynodi gwaith adnewyddu pwysig ar Heneb Restredig. Bydd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau yn dilyn ailagor y bont, mwy na thebyg.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r broses o ailosod y Bont Tramffordd Haearn yn dilyn difrod storm sylweddol wedi bod yn broses hanfodol sydd wedi cymryd tipyn o amser. Mae'n wych clywed bod y gwaith yma'n nesáu at y camau olaf. Mae'r strwythur yn arwyddocaol yn hanesyddol a diwylliannol am iddo gael ei adeiladu dros 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn eithriadol o bwysig, felly, ein bod ni'n treulio'r amser yn gweithio gyda Cadw er mwyn cwblhau'r gwaith yn y modd cywir.

"Mae carfan safle'r contractwr bellach wrthi'n derbyn cydrannau mawr y bont er mwyn eu gosod yn eu lle dros yr afon. Mae nifer o'r trawstiau gwreiddiol wedi dechrau cyrraedd yr wythnos yma - cyn i'r strwythur dur atgyfnerthol gael ei ddanfon yr wythnos nesaf. Dyma'r cam ble bydd trigolion wir yn gweld ffrwyth llafur wrth i'r bont gael ei hailgodi yn unol â'r delweddau argraffiadol gafodd eu cyhoeddi yn rhan o'r broses gynllunio yn gynharach eleni.

"Bron iawn i dair blynedd a hanner ers Storm Dennis, mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n ddiflino i drwsio seilwaith gafodd ei ddifrodi. Mae cynllun gwaith atgyweirio gwerth £20 miliwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer cynlluniau yn Rhondda Cynon Taf - gan gynnwys cynllun y Bont Tramffordd Haearn. Mae cynlluniau gwaith sylweddol eraill yn cynnwys Pont Castle Inn yn Nhrefforest, y Bont Wen ym Mhontypridd, Pont y Bibell Gludo yn Abercynon a Phont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail.

"Rwy'n falch iawn bod disgwyl i'r Bont Tramffordd Haearn ailagor i'r cyhoedd ym mis Hydref 2023, yn unol â'r amserlen. Bydd y trefniadau olaf yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor mewn da bryd. Diolch i drigolion am eich cydweithrediad wrth inni gyrraedd wythnosau olaf y cynllun adnewyddu pwysig yma."

Wedi ei bostio ar 15/09/2023