Skip to main content

Adborth cadarnhaol i gynllun man achlysuron gwyrdd ar gyfer Parc Pontypridd

Green events space

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiynau ymgysylltu diweddar ar gyfer man achlysuron gwyrdd ym Mharc Coffa Ynysangharad. Derbyniodd y Cyngor lawer o ymatebion cadarnhaol -  mae'r drafodaeth ar y themâu cyffredin a manylion am y camau nesaf wedi'u crynhoi isod.

Fel y cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mai 2023, bydd y Cyngor yn adfywio'r ardal sydd ddim yn cael ei defnyddio o'r parc a oedd yn arfer bod yn gwrs golff pitsio a phyti ac yn ddiweddarach yn gwrs golff troed. Ychydig iawn o werth at ddefnydd amgen sydd i’r ardal o ystyried ei chyflwr presennol a’i harwyneb tonnog. Bydd y cynllun sydd ar ddod yn gwneud llwyfandir uchaf yr ardal yn fwy gwastad er mwyn creu man gwyrdd pwrpasol sy’n addas ar gyfer cynnal achlysuron a gweithgareddau.

Mae'r parc eisoes yn cynnal nifer o achlysuron mawr, gyda phob un ohonyn nhw'n denu miloedd o ymwelwyr, megis Cegaid o Fwyd Cymru, Parti Ponty a Phicnic y Tedis. Yn ogystal â hyn, bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dod i Rondda Cynon Taf yn 2024, gyda'r parc yn cael ei gyhoeddi yn gartref i'r Maes.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Cyngor ddwy sesiwn ymgysylltu yng Nghanolfan Calon Taf ar Awst 25 a 29 Awst, lle gwahoddwyd trigolion lleol a grwpiau i gwrdd â swyddogion i gael gwybod rhagor am y cynlluniau ac i ofyn unrhyw gwestiynau.

Themâu a chwestiynau cyffredin o'r sesiynau ymgysylltu

Roedd yr adborth a dderbyniodd swyddogion yn cefnogi'r prosiect i raddau helaeth, gyda thrigolion yn gallu gweld manteision creu llecyn defnyddiadwy mewn man i deuluoedd. Roedd grŵp Cyfeillion Parc Coffa Ynysangharad ymhlith y grwpiau lleol a oedd yn bresennol, a nododd eu cefnogaeth i’r prosiect.

Er y bydd y man gwyrdd yn ased ar gyfer rhai o'r achlysuron mawr y mae'r parc yn eu cynnal, cododd trigolion rai cwestiynau ynghylch pwy arall fydd yn gallu ei ddefnyddio. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yn addas ar gyfer grwpiau yn y gymuned a grwpiau llai sy'n cwrdd yn rheolaidd - er enghraifft, gwersi lleol.

Fe gawson ni hefyd gwestiynau am arwyneb y lle gofod newydd, a ph'un a fydd wedi'i eithrio ar gyfer defnydd o ddydd i ddydd. Cadarnhaodd swyddogion y byddai wedi'i dirlunio'n feddal (gyda phridd a thywarch) ac yn ddefnydd cyhoeddus agored (dim newid i'r trefniadau presennol). Bydd modd i drigolion barhau i gerdded eu cŵn yn yr ardal yma.

Derbyniwyd adborth cadarnhaol ar gyfer y llwybr newydd o amgylch y man achlysuron, er mwyn agor yr ardal i holl ddefnyddwyr y parc, gan gynnwys y rheini â phroblemau symudedd. Er bod y llwybr yn bwysig oherwydd y rheswm yma, dylid nodi ei fod yn ffurfio elfen fechan o'r ardal gyffredinol, a gwneir y mwyaf o'r mannau gwyrdd.

Yn ddealladwy, roedd gan rai trigolion gwestiynau ynghylch a fydd unrhyw goed yn cael eu heffeithio gan y prosiect. Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith i leihau hyn,  a fydd unrhyw un o goed aeddfed y parc ddim yn cael eu heffeithio mewn unrhyw ffordd. Bydd angen tynnu pum coeden lai i lawr, ond byddan nhw'n cael eu hadleoli'n ofalus yn y parc. Mae chweched goeden, ond dyw honno ddim yn addas i gael ei hailblannu gan fod ganddi arwyddon o afiechyd a diwedd oes. I wneud iawn am hyn, bydd coeden ychwanegol yn cael ei phlannu yn y parc.

Ailadroddodd swyddogion hefyd nad oes unrhyw gynlluniau o gwbl i ddefnyddio'r ardal fel maes parcio, sy'n gwestiwn cyffredin arall y mae'r Cyngor wedi'i dderbyn.

Y camau nesaf i ddarparu'r cam adeiladu

Mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd cam adeiladu'r man achlysuron gwyrdd newydd yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun, 4 Medi. Bydd y safle’n cael ei osod yn ystod y dyddiau cyntaf, gyda’r prif waith yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf – i’w gwblhau erbyn diwedd 2023.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Hoffwn ddiolch i’r trigolion a’r grwpiau lleol hynny a gymerodd ran yn y sesiynau ymgysylltu diweddar ar gyfer y man achlysuron gwyrdd newydd ym Mharc Coffa Ynysangharad. Roedd yn braf clywed bod llawer o'r rheiny a gymerodd ran wedi dweud wrth swyddogion eu bod yn falch o gael y cyfle i gael gwybod rhagor a gofyn cwestiynau ar y cam yma o'r prosiect.

“Mae’r parc yng nghanol Pontypridd yn lleoliad poblogaidd sy’n aml yn cynnal achlysuron mawr i’r gymuned megis Cegaid o Fwyd Cymru, Parti Ponty a Phicnic y Tedis. Y flwyddyn nesaf, bydd y parc yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r achlysur hanesyddol a mawreddog i'r Fwrdeistref Sirol.

“Byddai sefydlu man gwyrdd ffurfiol nid yn unig yn ychwanegu at yr hyn sydd gyda'r parc i'w gynnig fel lleoliad achlysuron, ond hefyd yn darparu lle i grwpiau lleol llai gwrdd yn rheolaidd. Byddai hefyd yn helpu i leihau’r tarfu i ddefnyddwyr bob dydd y parc pan fydd achlysuron mwy yn cael eu cynnal.

“Roeddwn i'n falch bod adborth y cyhoedd i swyddogion yn gadarnhaol iawn ar y cyfan, a bod y ddwy sesiwn leol wedi rhoi cyfle pwysig i roi atebion i gwestiynau trigolion. Er enghraifft, gallai swyddogion dawelu meddyliau trigolion y bydd y man gwyrdd yn parhau ar agor i bawb heb unrhyw newid i gerddwyr cŵn – gallen nhw hefyd gyfleu ein cynlluniau i wneud y mwyaf o’r man gwyrdd, lleihau’r effaith ar goed, a chadarnhau unwaith yn rhagor nad oes cynlluniau i adeiladu maes parcio.

“Bydd trigolion Pontypridd, ac ymwelwyr â Pharc Coffa Ynysangharad, yn sylwi ar y gwaith cyntaf i gyflawni’r prosiect yn fuan – a hynny o wythnos gyntaf mis Medi. Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros yr wythnosau nesaf, er mwyn dod â'r ardal yma o'r parc sydd ddim yn cael ei defnyddio yn ôl i ddefnydd ar gyfer y gymuned.”

Wedi ei bostio ar 01/09/23