Skip to main content

Cynnig i drosglwyddo disgyblion Rhigos i Ysgol Gynradd newydd Hirwaun

Hirwaun Primary - Facilities

Bydd y Cabinet yn trafod cynigion ac argymhellion  gan Swyddogion y Cyngor yn ymwneud â chau Ysgol Gynradd y Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun – gan fod y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion yn y Rhigos yn debygol o barhau, a’r hen adeiladau ysgol angen gwaith sylweddol.

Ddydd Llun, 18 Medi, gallai'r Cabinet gytuno i ymgynghori â thrigolion ar y cynnig, a fyddai hefyd yn golygu bod angen ehangu dalgylch Ysgol Gynradd Hirwaun i gynnwys Rhigos. Mae gan rieni hefyd yr opsiwn i'w plant barhau â'u haddysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Penderyn, gyda chymorth gan y Garfan Trochi yn y Gymraeg.

Gallai'r Aelodau gytuno i ymgynghoriad cychwynnol o 2 Hydref tan 17 Tachwedd, o dan drefniadau sydd wedi'u hamlinellu yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Os bydd yr Aelodau yn cytuno yn dilyn yr ymgynghoriad, byddai modd gwneud y newidiadau ym mis Medi 2024.

Mae adroddiad i'w gyflwyno yn y cyfarfod ddydd Llun yn nodi mai dim ond 54 o ddisgyblion oedran ysgol statudol sydd yn Ysgol Gynradd y Rhigos, ac mae saith o'r rhain yn byw y tu allan i'r dalgylch. Mae disgwyl y bydd niferoedd disgyblion yn disgyn dros y pum mlynedd nesaf, gan effeithio ar hyfywedd ariannol yr ysgol a chael effaith negyddol ar addysg plant.

Ysgol Gynradd y Rhigos yw'r ysgol leiaf yn Rhondda Cynon Taf, gyda lle i 65 o ddisgyblion. Caiff plant eu haddysgu mewn tri dosbarth ar draws wyth grŵp blwyddyn. Mae adeilad gwreiddiol yr ysgol dros 100 mlwydd oed, ac mae'r ysgol yn defnyddio dau estyniad o’r 1960au ar gyfer toiledau, neuadd a gafodd ei adeiladu yn yr 1980au, a bloc o ystafelloedd dosbarth o’r 1950au (ar gyfer y feithrinfa) sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes dylunio.

Mae'r ysgol wedi'i graddio'n 'C' o ran cyflwr ac addasrwydd (ar raddfa lle A yw'r gorau a D yw'r gwaethaf o ran safon). Mae angen gwaith adnewyddu mawr i fynd i’r afael â rhestr hir o waith cynnal a chadw gwerth £184,790 – tra bod angen buddsoddiad ychwanegol i gyrraedd safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif a dod yn ynni effeithlon. Yn ogystal, dydy adeilad yr ysgol ddim yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

I gymharu, Ysgol Gynradd Hirwaun yw un o'r ysgolion cynradd mwyaf modern yn y Fwrdeistref Sirol ac mae ganddi rai o'r cyfleusterau gorau, a gafodd eu darparu yn 2020 drwy fuddsoddiad ar y cyd gwerth £9.6 miliwn gyda Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae’n ysgol gwbl hygyrch, a byddai modd darparu ar gyfer niferoedd disgyblion o Ysgol Gynradd y Rhigos yn hawdd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae’r cynnig yma wedi’i gyflwyno er mwyn sicrhau bod disgyblion Ysgol Gynradd y Rhigos yn parhau i gael addysg o ansawdd uchel yn y dyfodol. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau bod ei holl ysgolion yn cynnal darpariaeth effeithlon ac effeithiol. Bydd gwneud dim a gadael i nifer y lleoedd dros ben yn y Rhigos aros yn uchel yn effeithio ar hyfywedd ariannol yr ysgol yn y dyfodol.

“Mae Ysgol Gynradd Hirwaun wedi derbyn adeilad o’r radd flaenaf gwerth £9.6 miliwn, a byddai’r cynnig yn galluogi mwy o ddisgyblion i elwa o’r cyfleusterau rhagorol. Mae hyn yn dra gwahanol i hen adeiladau Ysgol Gynradd y Rhigos, sydd angen gwaith cynnal a chadw mawr a buddsoddiad ychwanegol i’w codi i safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai disgyblion sy'n symud o'r Rhigos i Hirwaun yn elwa o gyfleoedd llawer gwell a gweithgareddau allgyrsiol, a bydden nhw hefyd yn cael eu haddysgu gyda mwy o ddisgyblion yn eu grŵp blwyddyn eu hunain - yn hytrach na grwpiau blwyddyn cymysg bach.

“Mae’n bwysig nodi y byddai pob disgybl sy’n byw yn nalgylch Ysgol Gynradd y Rhigos yn gymwys i gael cludiant o’r cartref i’r ysgol i Ysgol Gynradd Hirwaun pe bai’r cynigion hyn yn cael eu cymeradwyo. Byddai holl gostau ychwanegol y cynnig yn cael eu talu gan y Cyngor.

“Ddydd Llun, gallai’r Cabinet gytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros y cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun, a fyddai'n cynnwys cynyddu ei dalgylch yn ffurfiol. Os bydd yr Aelodau'n cytuno, byddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal am chwe wythnos o 2 Hydref, a byddai'r holl adborth yn cael ei grynhoi mewn adroddiad pellach i'w ystyried gan y Cabinet yn y dyfodol.

“Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen y flwyddyn nesaf, mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd yna golled i bentref Rhigos, a bydd yn ymrwymo i archwilio unrhyw ddefnyddiau cymunedol amgen ar gyfer yr adeiladau presennol neu’r safle. Byddai’r opsiynau hyn yn cael eu datblygu gyda thrigolion, a byddai’r Cabinet yn trafod yn ffurfiol sut i symud ymlaen yn dilyn ymgynghoriad trylwyr gyda’r gymuned.”

Wedi ei bostio ar 15/09/2023