Skip to main content

Ailagor Heol Caerdydd yn Nhrefforest wedi gosod pont yn llwyddiannus

Castle Inn Bridge 1 - Copy

Cafodd Pont Droed newydd Castle Inn yn Nhrefforest ei gosod yn llwyddiannus yr wythnos yma – ac mae'r trefniadau olaf yn cael eu rhoi ar waith er mwyn ailagor Heol Caerdydd ar amser, cyn y cyfnod teithio mwyaf prysur fore dydd Llun.

Darparodd yr hen bont droed gyswllt allweddol dros Afon Taf rhwng Stryd yr Afon ym mhentref Trefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf, ond cafodd ei difrodi’n ddifrifol gan Storm Ciara a Storm Dennis. Mae wedi bod ar gau ers 2020 a chafodd cynllun i'w hailosod ei baratoi tra bo'r hen bont yn cael ei dymchwel yn ystod yr haf eleni.

Mae cau Heol Caerdydd dros wyliau'r haf wedi caniatáu i rannau mawr y bont gyrraedd y safle ynghyd â chwblhau'r paratoadau i osod y bont droed newydd. Cafodd craen 1,000 tunnell ei osod ar y safle dros yr wythnosau diwethaf, a chafodd y bont ei chodi i'w lle'n llwyddiannus ddydd Mercher 30 Awst.

Mae trefniadau bellach ar waith i ailagor Heol Caerdydd – bydd hyn yn digwydd cyn y cyfnod teithio prysuraf fore dydd Llun (4 Medi).

Bydd un lôn o Heol Caerdydd yn ailagor yn unol â'r cynlluniau, gyda llif traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal gan oleuadau traffig. Bydd y bws gwennol dros dro yn parhau i gael ei weithredu tan ddydd Sul, cyn i drefniadau bws arferol ailddechrau ddydd Llun.

Bydd cam olaf y gwaith yn mynd rhagddo wedi hyn, gan gynnwys ailosod cysylltiad carthffos i groesfan yr afon a gorffen y dynesfeydd at y bont newydd. Rydyn ni'n rhagweld fod y cynllun yn mynd i gael ei gwblhau ar amser – gan gynnwys agor y bont droed newydd i'r cyhoedd – erbyn dechrau mis Hydref 2023.

Mae gwaith ailwynebu Heol Caerdydd wedi'i gynllunio hefyd – bydd hyn yn cael ei gwblhau wedi i'r holl waith yn ymwneud â'r bont droed orffen.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Roedd gosod y bont newydd ddydd Mercher yn cynrychioli carreg filltir bwysig ar gyfer y cynllun yma, i ailosod hen bont droed Castle Inn oedd wedi'i difrodi gan Storm Dennis. Bydd y strwythur newydd yn ail-sefydlu'r cyswllt dros yr afon erbyn dechrau mis Hydref, ac mae wedi cael ei dylunio'n ofalus gydag amddiffynfeydd rhag llifogydd.

"Mae'r cynllun yma'n cael ei gwblhau'n rhan o raglen sylweddol o waith atgyweirio wedi Storm Dennis yn 2023/24. Mae'r rhaglen yma, sydd werth £20 miliwn yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae cynlluniau allweddol eraill yn cynnwys gwaith atgyweirio parhaus ar y Bont Wen ym Mhontypridd, gwaith ailosod Pont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon.

"Mae'r gwaith a gafodd ei gwblhau yn Nhrefforest dros wyliau'r haf yn ystod y cyfnod pan gaewyd Heol Caerdydd wedi mynd rhagddo'n dda iawn – ac rwy'n falch fydd Heol Caerdydd yn ailagor ar amser cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ddydd Llun.

"Mae wedi bod yn gynllun cymhleth iawn o ystyried fod yr hen bont yn rhestredig a lleoliad yr isadeiledd cyfleustodau gerllaw. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i'r trigolion lleol am eu hamynedd a’u cydweithrediad drwy gydol y cynllun. Rydyn ni nawr yn dynesu at wythnosau olaf y cynllun sy'n cynnwys ailosod cyswllt carthffos a chwblhau dynesfeydd y bont, cyn agor y bont droed ddechrau mis Hydref."

Wedi ei bostio ar 01/09/2023