Bydd trefniadau traffig newydd sy’n ymwneud â chynllun pont Heol y Maendy yn Nhon Pentre yn cael eu treialu o ddydd Iau. Bydd Heol Pentwyn ddim ar gau bellach. Bydd trefniadau rheoli traffig ar Stryd Bailey (8am-6pm yn ystod yr wythnos) i ganiatáu traffig trwodd ar gyfer teithiau lleol i Gwm-parc, Ysgol Gyfun Treorci a Mynydd Bwlch.
Dechreuodd y gwaith o osod pont newydd ar y B4223 Heol y Maendy, ger gorsaf yr heddlu ac ychydig tua'r de o'r gyffordd â'r Rhodfa, ddiwedd mis Gorffennaf. Mae'r strwythur mewn cyflwr gwael iawn ac mae angen adeiladu dec newydd i'r bont. Mae'r broses yma wedi'i chymlethu gan bresenoldeb offer cyfleustodau allweddol ar gyfer dŵr, trydan, nwy a chysylltiadau ffibr optig, y mae angen i asiantaethau allanol eu dargyfeirio.
Mae’r cynllun yn mynd rhagddo’n dda – tair wythnos yn gynt na’r disgwyl ac amcangyfrifir y bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2023 (os bydd y tywydd yn caniatáu).
Mae'r gwaith i osod pont newydd yn gwbl angenrheidiol, a chydnabuwyd y byddai'r cynllun yn debygol iawn o achosi aflonyddwch traffig anorfod yn lleol - yn enwedig ar lwybr dargyfeirio'r A4058 ac ar Sgwâr y Carw Coch. Mae'r Cyngor wedi monitro'r sefyllfa'n agos i archwilio opsiynau i wella llif y traffig. Mae'r opsiynau yma'n cynnwys addasu'r goleuadau ar Sgwâr y Carw Coch a newid amseroedd casglu gwastraff. Bydd mesurau gwella pellach yn cael eu treialu o ddydd Iau, 5 Hydref.
Trefniadau traffig newydd yn cael eu treialu o 5 Hydref
Bydd Heol Pentwyn yn cael ei ailagor o ddydd Iau – gan alluogi traffig trwodd i ddefnyddio Stryd Bailey. Gan fod Stryd Bailey ddim fel arfer yn addas i dderbyn rhagor o draffig, bydd mesurau rheoli lleol yn cyd-fynd â'r newid yma (rhwng 8am a 6pm yn ystod yr wythnos). Mae'r rhain yn cynnwys:
- System byrddau 'Stop/Go' a reolir â llaw ar ben gogleddol Stryd Bailey, ar gyffordd Cilgant y Maendy, gan ganiatáu i nifer cyfyngedig o gerbydau fynd drwodd ar y tro i ledaenu llif y traffig. Amcangyfrifir y bydd tua 250 o geir yn teithio i bob cyfeiriad bob awr, gan leddfu tagfeydd ar yr A4058 ac yn Sgwâr y Carw Coch.
- System byrddau 'Stop/Go' a reolir â llaw tua phen deheuol Stryd Bailey, sy'n caniatáu i draffig ddod i mewn ac allan o Stryd Bailey mewn ffordd reoledig. Bydd cyffordd Stryd Bailey/Stryd yr Eglwys yn cael ei monitro'n agos.
- Atal dwy ardal fach o barcio ar Stryd Bailey, ger Stryd Augusta, rhag cael eu defnyddio drwy roi llinell felen sengl dros dro, gan greu amgylchedd mwy diogel ar gyfer mwy o draffig. Bydd cyfyngiadau parcio yn rhedeg o 8am tan 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac felly caniateir parcio ar y llinell sengl felen yn gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau. I liniaru rhywfaint o'r golled o ran parcio yn ystod y dydd, bydd mannau parcio newydd ar gael yn Stryd Augusta a Stryd y Frenhines.
- Swyddog traffig wedi'i leoli ger Ysgol Iau Tonpentre ar adegau allweddol yn y bore a'r prynhawn, er mwyn sicrhau parcio cyfrifol yn ystod y cyfnodau prysur yma, er mwyn cynnal llif y traffig ar Stryd Bailey.
- Swyddogion traffig wedi'u lleoli wrth y mynedfeydd i Stryd Augusta a Stryd Crawshay, yn monitro a rheoli traffig o'r strydoedd ochr yma, gan ganiatáu i gerbydau ymuno â llif y traffig ar Stryd Bailey yn ddiogel.
Y tu allan i oriau gwaith yn ystod yr wythnos (cyn 8am ac ar ôl 6pm bob dydd), bydd trefniadau rheoli traffig yn dychwelyd yn ôl i'r trefniadau presennol gyda'r nos ac yn gynnar yn y bore - bydd Heol Pentwyn ar agor heb unrhyw fesurau ychwanegol ar Stryd Bailey. Bydd trefniadau’r penwythnos yn parhau fel o’r blaen, gyda Heol Pentwyn ar gau rhwng 8am a 5pm.
Sylwch, mae agor Stryd Bailey ar gyfer traffig trwodd wedi'i fwriadu ar gyfer defnyddwyr y ffordd sydd ddim fel arfer yn defnyddio Sgwâr y Carw Coch - er enghraifft, y rhai sy'n anelu am Gwm-parc, Ysgol Gyfun Treorci a Mynydd Bwlch.
Rydyn ni'n cynghori holl ddefnyddwyr eraill y ffordd i barhau i deithio ar hyd yr A4058. Bydd hyn yn galluogi llif traffig ar hyd Stryd Bailey – a chymunedau ehangach Ton Pentre, Pentre a Threorci – i weithredu dan yr amodau gorau. Dylai cerbydau mawr fel cerbydau nwyddau trwm hefyd ddefnyddio'r A4058.
Nod y rheolaethau yma yw lleihau ychydig ar y tagfeydd ar yr A4058 ac yn Sgwâr y Carw Coch. Mae'r newidiadau o 5 Hydref yn drefniadau prawf mae modd eu gwrthdroi os fydd traffig ddim yn ymateb yn ôl y disgwyl.
Bydd preswylwyr yn derbyn llythyr ddydd Llun yn egluro'r trefniadau, tra bydd disgyblion Ysgol Iau Tonpentre hefyd yn rhoi gwybodaeth allweddol i rieni.
Mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'i gontractwr i symud y gwaith o adnewyddu'r bont ar Stryd y Maendy yn ei flaen cyn gynted â phosibl. Mae swyddogion hefyd yn parhau i archwilio ffyrdd o wneud cynnydd ychwanegol, ac os oes modd symud y dyddiad cwblhau presennol (diwedd Tachwedd 2023) ymlaen hyd yn oed ymhellach.
Sylwch hefyd, tra bod y gwaith ar y bont yn mynd rhagddo tra bod Heol y Maendy ar gau, mae Wales & West Utilities yn achub ar y cyfle i wneud gwaith uwchraddio mawr ar y prif gyflenwad nwy. Fel arall, byddai angen cau'r ffordd eto yn y dyfodol.
Hoffai'r Cyngor ddiolch unwaith eto i drigolion, defnyddwyr ffyrdd a busnesau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus.
Wedi ei bostio ar 02/10/23