Y bont droed yn syth ar ôl Storm Dennis
Mae caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer pont droed newydd ar safle Pont Droed y Bibell Gludo rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr gyda strwythur gwell gyda'r nod o fod yn lletach ac yn fwy cydnerth yn erbyn digwyddiadau storm yn y dyfodol.
Ddydd Iau, 25 Ebrill, cytunodd aelodau o Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ag argymhellion swyddogion i gymeradwyo'r cais sy'n cynnwys gwaith adeiladu'r bont newydd a'r holl waith cysylltiedig dros dro. Cafodd bwrdd y bont a'r parapetau eu tynnu oddi yno yn dilyn difrod sylweddol wedi tywydd garw Storm Dennis yn 2020.
Mae'r bont droed yn croesi Afon Taf rhwng Maes Alexandra yn Abercynon a'r Dramffordd ym Mynwent y Crynwyr, a bydd cynllun adeiladu'r strwythur newydd yn cael ei arwain gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Am fod y bont wedi'i lleoli ar ffin y fwrdeistref sirol, cafodd cais cynllunio unfath ei ystyried gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 25 Ebrill - cafodd y cais yma ei gymeradwyo hefyd.
Bydd y bont newydd, 38 metr o hyd yn ail-ddefnyddio dwy bibell wreiddiol y bont, gyda thrawstiau parapet yn cael eu gosod yn lle'r bibell ganolog. Bydd y bibell yma yn cael ei thynnu oddi yno. Bydd bwrdd y bont yn gorwedd ar y trawstiau, a bydd yn 2.2 metr o led (o'i gymharu â'r bont wreiddiol oedd yn 1.5 metr o led). Bydd bwrdd y bont yn cael ei hadeiladu mewn dur yn hytrach na phren yn yr un modd â'r bont wreiddiol, gyda gwaith cynnal a chadw yn cael eu cynnal ar yr ategweithiau a'r pileri, megis ail-bwyntio a chlirio llystyfiant.
Mae'r bont newydd wedi cael ei dylunio i ddarparu rhagor o gydnerthedd yn erbyn croniad ac effaith malurion afon, gyda'r gallu i wrthsefyll llwyth hydrolig mwy na'r bont wreiddiol. Mae wedi'i ddylunio i fod yn fwy cydnerth mewn digwyddiadau storm o ganlyniad.
Wrth argymell i'r cais gael ei gymeradwyo, roedd adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn nodi bod gyda'r datblygiad nifer o fanteision. Bydd yn gwared â strwythur wedi'i ddifrodi, yn ail-agor y llwybr troed ac yn darparu cyfleuster gwell a lletach ar gyfer y gymuned sy'n cydymffurfio â safonau dylunio presennol. Bydd hefyd angen llai o waith cynnal a chadw o'i gymharu â'r bont wreiddiol. Bydd modd cyflawni'r gwaith cynnal a chadw yma gydag effaith llai ar ymddangosiad ac ecoleg yr ardal.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi sicrhau caniatâd cynllunio llawn er mwyn adeiladu pont newydd yn lle hen Bont Droed y Bibell Gludo - carreg filltir allweddol i'r cynllun wrth fwrw ymlaen drwy gydol y flwyddyn ariannol yma. Bydd y bont newydd yn ailsefydlu cyswllt rhwng cymunedau Abercynon a Mynwent y Crynwyr, yn creu llwybr troed lletach ar gyfer cerddwyr sy'n croesi'r afon, ac yn darparu strwythur sy'n fwy cydnerth mewn digwyddiadau storm yn y dyfodol.
"Yn dilyn Storm Dennis yn 2020, dywedodd y Cyngor y byddai'n ymrwymo i atgyweirio ac ail-osod isadeiledd allweddol oedd wedi cael eu difrodi ledled y Fwrdeistref Sirol - gan bwysleisio bydd yr ymdrech yma yn mynd i'r afael â nifer o brosiectau cymhleth dros nifer o flynyddoedd. Mae Pont Droed y Bibell Gludo yn un o'r prosiectau sylweddol olaf sydd am gael eu cyflawni, gyda chymorth ariannol ar waith gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i rhaglen atgyweirio difrod Storm Dennis gwerth £3.61 miliwn yn 2024/25.
"Bydd y Cyngor yn arwain y cynllun yma, ac am fod y bont wedi'i lleoli ar ffin y fwrdeistref sirol, bydd swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos gyda Chyngor Merthyr Tudful wrth fwrw ymlaen gyda'r gwaith adeiladu. Byddwn ni'n cyfathrebu â thrigolion lleol maes o law - pan fydd y trefniadau wedi'u cadarnhau - fodd bynnag, does dim disgwyl i brif gam y gwaith darfu ar y gymuned leol am fod y bont wedi'i lleoli ymhell o eiddo preswyl."
Wedi ei bostio ar 29/04/24