Skip to main content

Academi Jason Mohammad yn ymweld â Rhondda Cynon Taf

IMG-20231206-WA0003

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu partneriaeth ag Academi Jason Mohammad i gynnig gweithdy 'Diwydiant Creadigol' i bobl ifainc sy'n awyddus i archwilio cyfleoedd yn y sector creadigol.

Mae'r cyflwynydd, darlledwr a newyddiadurwr adnabyddus, Jason Mohammad, wedi sefydlu ei academi gelfyddydau ei hun er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â chyfweliadau, cynhyrchu’r podlediad perffaith, defnyddio awtociw a chynhyrchu hyrwydd-dâp.

Mae aelodau'r academi yn derbyn cyflwyniad trylwyr i'r cyfryngau a newyddiaduraeth gan un o ddarlledwyr mwyaf profiadol a phoblogaidd y DU, gan feithrin sgiliau allweddol a phrofiad i'w hychwanegu at eu CV. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi’n serennu ymhlith ymgeiswyr eraill.

Mae’r ffordd y mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi’u datblygu yn cynrychioli un o lwyddiannau economaidd mawr y wlad a thrwy ein partneriaeth ni ag Academi Jason Mohammad, bydd disgyblion Rhondda Cynon Taf ar flaen y gad wrth geisio dod o hyd i gyfleoedd gwaith yn y sector pwysig yma. 

Yn y sesiynau ar gampws Cwm Rhondda a champws Nantgarw Coleg y Cymoedd, aeth Jason ati i weithio gyda disgyblion i wella eu dealltwriaeth a sgiliau'n ymwneud a chyflwyno, ffilmio, cynhyrchu a golygu. Defnyddiodd Jason ei arbenigedd a gwybodaeth hynod werthfawr i gefnogi'r unigolion i ddatblygu podlediadau, rhaglenni teledu a darnau radio i'w defnyddio yn rhan o'u portffolios proffesiynol eu hunain.

Llwyddodd y cyfleoedd i uno disgyblion o bob cwr o'r Fwrdeistref Sirol sy'n awyddus i ddechrau gyrfa yn y cyfryngau ond sydd heb yr hyder, y cyfleodd neu'r modd i ddatblygu enghreifftiau o waith a fyddai'n eu galluogi i ymgeisio ar gyfer swyddi.

Hwylusodd Jason bob un o’r sesiynau ac roedd ei wybodaeth a'i brofiad personol yn ysbrydoliaeth i bawb a fynychodd y sesiwn i archwilio'r diwydiant a'r holl gyfleoedd sy’n rhan ohono. Rhannodd Jason straeon am ei blentyndod yn Nhrelái, Caerdydd, a dywedodd fod ei stori ef yn dangos y gall unrhyw un lwyddo yn y maes.

Meddai Jason:

"Mae'r wythnosau diwethaf yn gweithio gyda grwpiau talentog iawn yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi cynhyrchu eitemau arbennig, ond yn fwy pwysig na hynny, rydyn ni wedi mireinio sgiliau a meithrin hyder ymysg disgyblion Academi Jason Mohammad.

"Maen nhw bellach ar eu taith i yrfa yn y diwydiannau creadigol ac rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth hir a llwyddiannus rhwng Academi Jason Mohammad a Chyngor Rhondda Cynon Taf fel bod modd i ni roi hwb i ragor o sêr y dyfodol a chreu cyfleoedd gwaith.” 

Dyma'r tro cyntaf i'r Cyngor gynnig cyfle fel hyn ac mae'r cyfuniad o enw da Jason a chefnogaeth Coleg y Cymoedd wedi sicrhau bod y sesiynau yma'n llwyddiant. Mae'r adborth cadarnhaol gan y sawl a fynychodd ynghyd ag ansawdd yr hyn y maen nhw wedi’u cynhyrchu, y cynnydd amlwg yn eu hyder, gwybodaeth a sgiliau wedi ein syfrdanu.

Aeth y Cynghorydd Bob Harris i gyflwyno tystysgrif presenoldeb i bob disgybl a fynychodd y sesiynau. Meddai'r Cynghorydd:

"Mae'r academi'n gyfle gwych i bobl ifainc ar draws y Fwrdeistref Sirol archwilio eu diddordebau yn y maes creadigol a dysgu gan weithiwr proffesiynol fel Jason.

"Trwy'r bartneriaeth yma gydag Academi Jason Mohammad, mae disgyblion yn Rhondda Cynon Taf yn dysgu sgiliau allweddol ac yn sicrhau eu bod nhw ar flaen y gad wrth chwilio am gyfleoedd mewn sector sy'n mynd o nerth i nerth. Rydyn ni'n falch iawn o hyrwyddo hynny."

Cafodd y cyfle yma ei ddarparu yn rhan o Gynnig Gwaith a Sgiliau ehangach y Cyngor sydd wedi'i ariannu gan gyllid grant Ffyniant Bro y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Wedi ei bostio ar 03/04/24