Mae dysgwyr Blwyddyn 11 ar draws y Fwrdeistref Sirol wedi mynd i’w hysgolion y bore yma (Dydd Iau, 22 Awst) i dderbyn canlyniadau eu cymwysterau TGAU.
Mae Diwrnod y Canlyniadau yn benllanw gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd – ac i ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf, mae llawer i’w ddathlu ac i fod yn falch ohono.
Mae cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i ddysgwyr sy’n ansicr ynghylch eu camau nesaf – gan gynnwys gan staff ysgol a Gyrfa Cymru. Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol a allai fod o ddefnydd ar waelod y diweddariad hwn.
Ymhlith y rhai a fu’n llongyfarch y dysgwyr llwyddiannus a staff yr ysgol roedd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a’r Gymraeg, y Cynghorydd Rhys Lewis, a Chyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor, Gaynor Davies, sydd wedi anfon neges y bore yma yn llongyfarch ac yn diolch yr holl ddysgwyr, staff yr ysgol, a rhieni/gwarcheidwaid.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a’r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i holl ddysgwyr Rhondda Cynon Taf, sydd wedi derbyn canlyniadau eu cymwysterau TGAU'r bore yma. Mae eich cyflawniadau rhagorol yn ganlyniad i waith caled a dyfalbarhad trwy gydol eich blynyddoedd ysgol uwchradd.
“Mae’n wych gweld cymaint o wynebau hapus dysgwyr ac aelodau staff yn ein hysgolion y bore yma. Hoffwn ddymuno pob lwc i holl ddysgwyr Blwyddyn 11 wrth i chi gychwyn ar y rhan nesaf o’ch taith – boed hynny’n dychwelyd i’r chweched dosbarth, mynychu’r coleg, dechrau hyfforddiant, neu fynd i fyd gwaith.
“Mae hefyd yn bwysig cydnabod na fyddai’r dysgwyr wedi llwyddo heb ein staff ysgol wych a chymuned ehangach yr ysgol – gan gynnwys rhieni a gwarcheidwaid. Diolch am eich ymroddiad i gefnogi ein pobl ifanc bob dydd.”
Dywedodd Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni eleni. Mae ein dysgwyr a’n staff addysg gwych wedi gweithio’n ddiflino ac adlewyrchir hyn yn y canlyniadau a gyflawnwyd heddiw. Mae'r gefnogaeth a ddarparwyd gan rieni/gwarcheidwaid hefyd wedi bod yn amhrisiadwy o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Mae’r awyrgylch yn ein hysgolion heddiw yn adlewyrchu’r garreg filltir bwysig iawn hon ym mywyd person ifanc ac mae wedi bod yn bleser gweld hyn yn uniongyrchol. Mae gennym ni gefnogaeth ychwanegol ar gael yn ein hysgolion i’r rhai sydd heb gyflawni’r hyn roedden nhw’n ei ddisgwyl, ac i’r rhai sy’n ansicr o’u camau nesaf.”
Dolenni defnyddiol:
• Hafan Gyrfa Cymru
• Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid – Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant
• Cyngor Rhondda Cynon Taf, llwybrau Ôl-16
Wedi ei bostio ar 22/08/2024