Bydd gwelliannau strwythurol yn cael eu gwneud i un o gilfachau'r cwlferi yn Nheras y Waun yn Ynys-hir o ddydd Llun ymlaen â chyllid gan Lywodraeth Cymru; ychydig iawn o darfu y mae disgwyl i hyn ei achosi yn lleol.
Mae'n bosibl y bydd preswylwyr yn sylwi bod y cynllun ar waith o ddydd Llun 2 Medi ymlaen; yr amcan o ran y gwaith yw lliniaru'r perygl llifogydd, yn uniongyrchol felly, ar gyfer 30 eiddo sydd gerllaw.
Yn rhan o'r gwaith bydd rhwyll fwy yn cael ei gosod, bydd gwaith atgyweirio strwythurol yn cael ei wneud i'r waliau ochr a'r prif waliau, a bydd mynediad gwell yn cael ei greu ar gyfer cerbydau cynnal a chadw.
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan raglen Gwaith ar Raddfa Fach Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.
Fe dalodd y cyllid am y gwaith dylunio ar gyfer y cynllun y llynedd, a bydd yn talu am 85% o'r gwaith adeiladu yn rhan o raglen eleni (2024/25).
Bwriad y cynllun yw lleihau'r perygl posibl o ddigwyddiadau'n ymwneud â llifogydd yn y cwrs dŵr cyffredin drwy wneud capasiti hydrolig cilfach y cwlfer yn fwy a lleihau'r perygl o rwystrau.
Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction i ymgymryd â'r gwaith ar y safle; bydd y gwaith yma'n mynd rhagddo am oddeutu pum wythnos i gyd.
Ychydig iawn o darfu y mae disgwyl i'r gwaith ei achosi'n lleol; does dim gwaith yn mynd rhagddo ar y ffordd fawr na'r llwybr troed. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd o amgylch yr ardal sydd yn y llun, sef cilfach y cwlfer.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 28/08/24