Bydd gwaith amnewid ac uwchraddio goleuadau traffig Gadlys ger prif fynedfa #Parc Aberdâr yn cael eu cynnal o ddydd Sul ymlaen.
Mae'r goleuadau ger cyffordd y B4275 Heol Gadlys a Heol Glan, a bydd y cynllun amnewid yn cael ei gynnal dros bythefnos o ddydd Sul, 18 Awst ymlaen.
Bydd y goleuadau LED newydd sy'n cael eu gosod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. Bydd yr offer monitro yn newydd hefyd.
Er mwyn hwyluso'r gwaith, bydd goleuadau traffig pedair ffordd dros dro yn cael eu defnyddio tra bo'r goleuadau parhaol yn cael eu huwchraddio. Bydd croesfannau dros dro i gerddwyr ar waith hefyd.
Byddwch yn ymwybodol bod disgwyl oedi wrth y gyffordd yma tra bo gwaith yn cael ei gynnal. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Mae'r Cyngor wedi penodi Yunex Traffic er mwyn darparu'r cynllun, sy'n cael ei hariannu gan Raglen Cyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2024/25 y Cyngor.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith gwella angenrheidiol yma gael ei gynnal.
Wedi ei bostio ar 14/08/2024