Skip to main content

Gwaith hanfodol i wella goleuadau traffig yr A4059 ym Mhen-y-waun

Penywaun lights 1 - Copy

Bydd cynllun gwaith i osod goleuadau traffig newydd yn lle'r rhai yn y llun ym Mhen-y-waun yn dechrau o ddydd Mawrth ymlaen. Mae'r gwaith yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Mae'r goleuadau wrth y gyffordd â'r A4059 Ffordd Hirwaun ac Arfryn, a bydd y cynllun yn dechrau ddydd Mawrth 27 Awst ac yn dod i ben ddydd Sul 1 Medi.

Bydd y goleuadau LED newydd yn fwy ecogyfeillgar, ac mae angen gosod offer monitro newydd.

Er mwyn cynnal y gwaith, bydd goleuadau traffig tair ffordd dros dro yn cael eu defnyddio wrth i'r rhai parhaol gael eu gosod. Bydd croesfan dros dro i gerddwyr hefyd.

Rhagwelir rhywfaint o oedi wrth y gyffordd yma yn ystod y gwaith.

Mae'r Cyngor wedi penodi Yunex Traffic i gynnal gwaith y cynllun, a ariennir gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor ar gyfer 2024/25.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith gwella angenrheidiol yma gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 21/08/24