Skip to main content

Cyllid i ddylunio mesurau lliniaru llifogydd sylweddol ar gyfer Pentre

Pentre Flood Alleviation Scheme

Mae'r Cyngor yn falch o sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â Chynllun Lliniaru Llifogydd Pentre – a fydd yn buddsoddi yng ngwaith lliniaru llifogydd sylweddol, pellach yn y pentref, a hynny ar ben y mesurau sylweddol sydd eisoes wedi'u cyflawni ers Storm Dennis.

Roedd Pentre yn un o'r cymunedau gafodd ei heffeithio fwyaf yn dilyn glaw digynsail Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae gwaith sylweddol wedi cael ei gynnal ers hynny er mwyn lliniaru perygl llifogydd yn y dyfodol, ac mae crynodeb o'r gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn i'w weld isod. Mae adroddiad Adran 19 o dan y teitl Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, gafodd ei gyhoeddi gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2021, wedi ein helpu ni i ddeall achosion y llifogydd yn y gymuned.

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf 2023, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad â thrigolion ar ddatblygu opsiwn a ffefrir ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre – gan gynnwys dau achlysur lleol yng Nghanolfan Pentre. Bydd y cynllun yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith, gan ddal dŵr glaw yn nalgylch uchaf Pentre a dargyfeirio'r llif drwy gwlfer newydd wedi'i leoli ar y tir.

Mae'r Cyngor bellach wedi cael £800,000 o gyllid o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gyflawni'r Achos Busnes Llawn a'r cam dylunio manwl.

Bydd y cyllid yma'n galluogi'r Cyngor i ddechrau cam dylunio technegol y cynllun dros y 18 mis nesaf – fydd, yn y bôn, yn bwrw ymlaen â'r dyluniad a gafodd ei rannu gyda'r gymuned yn yr haf y llynedd. Y camau cyntaf fydd penodi ymgynghorwyr allanol ar gyfer y cynllun, a dechrau ar y gwaith arolygu cychwynnol. 

Mae modd i drigolion gael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy grwpiau cyswllt lleol fydd yn cael eu sefydlu gyda chynrychiolwyr o'r gymuned. Hefyd, bydd tudalen bwrpasol ar wefan y Cyngor yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae modd gweld y dudalen we yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Rydyn ni wedi croesawu'r cyllid pwysig yma gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â Chynllun Lliniaru Llifogydd Pentre – sy'n ymrwymiad gan y Cyngor i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd pellach ar gyfer y pentref. Bydd hwn yn brosiect sylweddol, fydd yn cael ei ddylunio a'i gyflawni dros nifer o flynyddoedd, wrth i ni geisio amddiffyn y gymuned rhag perygl tywydd difrifol yn y dyfodol.

“Cafodd opsiwn a ffefrir ar gyfer dyluniad y cynllun ei rannu gyda'r gymuned yn yr haf y llynedd, a bydd y cyllid sydd newydd gael ei sicrhau yn galluogi swyddogion i fwrw ymlaen â'r Achos Busnes Llawn a'r cam dylunio manwl. Adroddiad Adran 19 ar gyfer llifogydd ym Mhentre yn ystod Storm Dennis oedd y cyntaf o 19 i ni eu cyhoeddi, ac mae wedi ein helpu ni i ddeall pam roedd llifogydd yn lleol, ac wedi llywio'n hymdrechion i leihau perygl llifogydd pe byddai storm debyg yn y dyfodol.

“Er bod llawer o'r gwaith hyd yn hyn wedi cael ei gynnal y tu ôl i'r llenni, dyma roi sicrwydd i drigolion fod Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn flaenoriaeth i ni – ac mae'r cyllid sydd newydd gael ei sicrhau yn golygu y bydd modd penodi ymgynghorydd a chynnal gwaith arolygu cychwynnol ar y tir. Bydd y Cyngor yn diweddaru ei dudalen we bwrpasol yn rheolaidd er mwyn tynnu sylw at y cynnydd, a bydd yn rhoi gwybod am yr holl gerrig milltir i drigolion lleol.”

Mae'r canlynol wedi cael ei gyflawni ym Mhentre ers Storm Dennis: 

  • Wedi arolygu oddeutu 3.2km o gyrsiau dŵr cyffredin a 5.5km o seilwaith draenio dŵr wyneb. Mae hyn wedi'i fapio a'i adolygu, gan arwain at waith glanhau ac atgyweirio wedi'u targedu. Mae oddeutu 600 tunnell o falurion wedi cael eu clirio o asedau yn dilyn Storm Dennis.
  • Wedi cwblhau'r gwaith o ddatblygu achos busnes ar gyfer Ardal Strategol Perygl Llifogydd Cwm Rhondda Uchaf, sydd yn cynnwys prosiect peilot i nodi a chwblhau nifer o gynlluniau 'budd cyflym' i reoli perygl llifogydd lleol sydd wedi helpu i gyflawni gwaith pellach yn dilyn Storm Dennis.
  • Wedi cwblhau gwaith sylweddol yng nghilfach Heol Pentre - cafodd y gwaith yma ei gwblhau ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd yn cynnwys gwaith ailadeiladu cilfach cwlfer yn Heol Pentre, gan ganolbwyntio ar reoli malurion a strwythurau gorlifo sy'n rhan o'r prosiect.
  • Wedi cwblhau cynllun atal llif dros y tir ar Heol Pentre - mae hyn yn cynnwys gosod sawl strwythur draenio ychwanegol er mwyn atal a lliniaru unrhyw lif dros y tir yn ardal cilfach Heol Pentre.
  • Wedi cwblhau strwythur gorlifo ger Stryd Lewis a Stryd Hyfryd- gosod llwybr rheoli llif dros y tir sy'n ceisio lliniaru llif sy'n cael ei achosi gan dyllau archwilio cwrs dŵr arferol ym Mhentre Isaf.
  • Wedi cwblhau cynllun dargyfeirio llifogydd ym Mharc Pentre - y nod yw gwella cwlfer cwrs dŵr arferol, drwy osod twll archwilio dalbwll mawr er mwyn lleihau risg malurion yn mynd i mewn i'r cwlfer.
  • Wedi cwblhau'r cysylltiad i'r system orlif dŵr wyneb ar Stryd Lewis gyda Dŵr Cymru -adeiladu system orlif lefel uchel er mwyn cynyddu gallu'r seilwaith draeniau priffyrdd.
  • Wedi cwblhau gwaith gwella twll archwilio gorlif ar Stryd y Gwirfoddolwr - gwella twll archwilio cwrs dŵr cyffredin sy'n gorlifo i orsaf bwmpio gerllaw. Mae hyn wedi cynyddu gallu'r seilwaith presennol ac yn darparu cydnerthedd i'r orsaf bwmpio.
  • Wedi cwblhau gwaith atgyweirio i dyllau archwilio cwrs dŵr cyffredin presennol mewn sawl lleoliad, ar ôl nodi difrod storm. Mae sawl twll archwilio cwrs dŵr cyffredin wedi'u hadnewyddu a'u gwella.
  • Gwaith atgyweirio draeniau priffyrdd ledled cymuned Pentre, i seilwaith gafodd ei rwystro a'i ddifrodi o ganlyniad i Storm Dennis. Nod hyn oedd ceisio gwella gallu seilwaith draenio'r priffyrdd.
  • Wedi cwblhau gwaith adsefydlu strwythurol i gwlferi'r cwrs dŵr cyffredin ym Mhentre. Cafodd gwaith pellach ei gwblhau oedd wedi adsefydlu sawl cwlfer cwrs dŵr cyffredin yn strwythurol. Nod hyn oedd ceisio lleihau'r risg y bydd y rhwydweithiau'n methu'n strwythurol yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 21/08/2024