Bydd ail gyfres o waith ailwynebu'r A473, Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys ar Gylchfan Nant Celyn, Efail Isaf, yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn ymlaen.
Bydd Cylchfan Nant Celyn (llun) yn cau am bedair noson - dydd Sadwrn i ddydd Mawrth (8pm-3am, 17-20 Awst). Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 3am ddydd Mercher, 21 Awst.
Bydd y cynllun yn cael ei ddarparu yn rhan o raglen gyfunol gwerth £7.5 miliwn y Cyngor ar gyfer adnewyddu priffyrdd a llwybrau troed yn rhan o'i raglen cyfalaf ar gyfer 2024/25.
Mae'n dilyn cynllun tebyg sy'n cael ei gwblhau ar Gylchfan Ton-teg rhwng 13 ac 16 Awst.
Bydd llwybr amgen i fodurwyr yn cael ei nodi ar hyd Heol yr Orsaf, y B4595 Yr Heol Fawr a Heol Ton-teg tra bo Cylchfan Nant Celyn ar gau yn ystod y nos.
Mae rhan y ffordd sydd ar gau, ynghyd â'r llwybrau amgen i fodurwyr wedi'u hamlinellu ar y map canlynol ar wefan y Cyngor.
Bydd mynediad yn parhau ar gael ar gyfer cerddwyr a'r gwasanaethau brys. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 15/08/2024