Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer datblygiad modern i ddarparu llety gofal i bobl hŷn yn Aberpennar – gan gynnwys 25 o fflatiau gofal ychwanegol newydd, 15 o welyau gofal dementia ac 8 o fyngalos 'Byw'n Hŷn'.
Rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ganiatâd cynllunio i Linc Cymru (Linc) ar gyfer y cynllun cyffrous ddydd Iau 15 Awst. Mae'r Cyngor a Linc yn gweithio gyda'i gilydd i foderneiddio llety gofal i bobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf, ac mae cynllun Aberpennar yn un o bedwar sy'n rhan o raglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd y cytunwyd arni y llynedd. Mae'r cynlluniau eraill wedi'u cynllunio ar gyfer ardaloedd Treorci, Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys.
Mae cynllun tai â gofal ychwanegol newydd, gyda 60 o fflatiau gofal ychwanegol a chyfleusterau modern, hefyd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn ardal Porth – gan ddefnyddio dyraniad cyllid ar wahân y cytunwyd arno'n flaenorol.
Yn rhan o gais cynllunio dydd Iau, gofynnwyd am ganiatâd llawn i adeiladu datblygiad preswyl arbenigol ar hen safle'r Pafiliwn oddi ar Heol y Darren – yn ogystal â mynediad, maes parcio a gwaith tirlunio. Mae'r byngalos 'Byw'n Hŷn' wedi'u clustnodi ar gyfer rhan ddwyreiniol y safle (uwchlaw Foundry Terrace), gyda'r tai gofal ychwanegol a gofal dementia yn rhan o adeilad â thri llawr ar ran orllewinol y safle (islaw Bryn Ifor).
Bydd y fflatiau a llety gofal preswyl ar dri llawr y prif adeilad, gyda chyfleusterau a chyfleustodau a rennir ar y llawr gwaelod. Maint y safle yw tua 0.92 hectar – roedd gan y safle adeiladau ffatri a phafiliwn mawr sydd wedi'u dymchwel erbyn hyn. Bydd dyluniad y datblygiad yn cynnwys darpariaeth i hyrwyddo bioamrywiaeth a nodweddion draenio trefol cynaliadwy.
Roedd adroddiad cyfarfod dydd Iau wedi argymell cymeradwyo'r cais, gan nodi egwyddor y datblygiad i ddarparu math o lety y mae galw mawr amdano ar dir oedd wedi'i ddatblygu'n flaenorol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd bod cynigion i greu llety gofal modern newydd yn Aberpennar wedi cael caniatâd cynllunio, sy'n golygu bod modd i'r datblygiad cyffrous yma symud yn ei flaen tuag at y cam adeiladu. Bydd tir llwyd gwag yn cael ei ddefnyddio eto, a bydd yn parhau â'n buddsoddiad sylweddol yng nghyfleusterau gofal i bobl hŷn – gan ddarparu 25 o fflatiau gofal ychwanegol, 15 o welyau gofal dementia ac 8 o fyngalos 'Byw'n Hŷn'.
“Y cynllun yma yn Aberpennar yw'r enghraifft ddiweddaraf o wireddu'n hymrwymiad, a hynny mewn partneriaeth â Linc, er mwyn moderneiddio cyfleusterau gofal a chynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Mae gofal ychwanegol yn darparu cymorth 24/7 ar gyfer anghenion pobl hŷn sydd wedi'u hasesu, yn creu cymuned ym mhob adeilad ac yn annog ymgysylltiad ystyrlon yn y gymuned leol ehangach – gan helpu pobl i aros yn annibynnol am gyhyd â phosibl.
“Mae ein datblygiadau diweddaraf yn Aberaman a Graig wedi'u sefydlu'n ganolfannau cymunedol poblogaidd, ac mae trydydd cynllun yn ardal Porth wrthi'n cael ei adeiladu. Wrth edrych i'r dyfodol, cytunodd y Cabinet hefyd ar raglen gwerth miliynau o bunnoedd i adeiladu llety gofal modern yn ardaloedd Treorci, Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys, yn ogystal â chynllun Aberpennar. Mae sicrhau caniatâd cynllunio yn garreg filltir allweddol, a bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Linc i roi'r diweddaraf i drigolion wrth i'r cynllun ddatblygu tuag at ddechrau'r gwaith cyntaf ar y safle.”
Wedi ei bostio ar 20/08/2024