Mae’r Cyngor wedi rhannu’r newyddion diweddaraf am y gwaith hanfodol sy’n mynd rhagddo i atgyweirio difrod tân ar ochr y bryn (ochr Treherbert) ar Ffordd Fynydd y Rhigos (yr A4061). Mae cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud yn ystod y pedair wythnos gyntaf, ac rydyn ni wedi defnyddio'r tywydd sych i'n mantais.
Mae'r trywydd rhwng Treherbert a Rhigos wedi bod ar gau ers 22 Gorffennaf, mae hyn yn fesur cwbl angenrheidiol i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod cyfnod y gwaith atgyfnerthu cymhleth yma. Amser yn ôl, cafodd rhan sylweddol o ochr y mynydd ei ddifrodi mewn tân, yn ogystal â rhwydi gwifren, rhwydi plastig a ffensys.
Mae'n hanfodol bod y gwaith yma'n cael ei wneud nawr er mwyn sicrhau y bydd y ffordd ar agor i gymunedau'r dyfodol, ac er mwyn ceisio sicrhau na fydd rhaid cau'r ffordd am gyfnodau hwy yn sgil argyfwng; byddai hyn wedi bod yn bosibilrwydd pe byddai ochr y graig wedi ei adael i ddadfeilio ymhellach.
Cau Ffordd Mynydd y Rhigos – Cwestiynau Cyffredin
Does dim modd cadw’r ffordd ar agor tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo; mae'n rhaid cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch. Mae peirianwaith trwm ac offer ar gyfer mynediad arbenigol yn cael eu defnyddio i gyrraedd pen uchaf wyneb y graig, ac ar yr un pryd mae perygl y gallai tameidiau o'r graig ddisgyn ar y ffordd.
Mae cyfuniad o ddatrysiadau geodechnegol arbenigol yn sail i'r cynllun gorffenedig, sydd wedi'i gytuno arno, ar gyfer mynd i'r afael â'r difrod i ochr y bryn. Ymysg y rhain, mae'r system gwanhadur (attentuator), gwahanfur ar gyfer creigiau sy'n disgyn a systemau rhwydi gweithredol (sy'n rhwystro creigiau rhag disgyn) ac anweithredol (sy'n fodd o gasglu creigiau sy'n disgyn).
Diweddariad ynghylch cynnydd – wythnos yn dechrau Dydd Llun Awst 19
Fe ddechreuodd contractwr y Cyngor Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf, ei waith cychwynnol ar 22 Gorffennaf, gan baratoi'r safle'n drylwyr, roedd hyn yn cynnwys gosod y ffensys a'r systemau diogelwch ar y safle. Mae'r ardal waith yn ymestyn dros oddeutu 375 metr o ochr y mynydd.
Yn rhan o'r gwaith yma roedd gofyn gosod angorau, mae hyn wedi galluogi gweithwyr i gael mynediad at bob rhan o wyneb y graig â rhaffau. Mae gogwydd ochr y graig dros 50 metr o hyd a 30 metr o uchder; mae'n hanfodol cael systemau diogel yn eu lle er mwyn ei gyrraedd.
Roedd gofyn cael gwared ar y llystyfiant yn yr ardal waith er mwyn gallu gosod yr isadeiledd newydd fydd yn rhwystro creigiau rhag cwympo. Y prif orchwyl o ran y gwaith yma oedd cael gwared ar lystyfiant mewn lleoliadau hanfodol – er enghraifft, o gwmpas ardaloedd ble roedd rhwydi creigiau wedi'u difrodi.
Mae gweithgarwch allweddol o ran drilio a phrofi boltiau'r creigiau hefyd wedi dod i ben. Mae'r gwaith yma wedi golygu bod modd dilysu'r gwaith dylunio ar gyfer y cynllun yn ehangach felly, ac mae wedi rhoi gwybodaeth fanwl i ni ynghylch cryfder y graig a pherfformiad y strwythur pan fydd yn dal pwysau.
Mae'r gwaith drilio boltiau o wahanol hydoedd a diamedrau yn y creigiau yn parhau o hyd ledled y safle. Pwrpas y boltiau yw diogelu’r offer rhwystro creigiau rhag disgyn, newydd – gan gynnwys rhwydi, ffensys sy'n dal creigiau sy'n cwympo, a gwanhaduron.
Mae'r Cyngor wedi mynegi eisoes mai'r gobaith yw y bydd y cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2024. Mae'r cynnydd cadarnhaol sydd wedi'i wneud hyd yn hyn wedi sicrhau bod y cynllun ar amser. Mae amserlenni yn cael eu hasesu'n gyson, ac rydyn ni'n ddibynnol ar dywydd sych i barhau â'r cynnydd cadarnhaol yma.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Mae'r cyfnod adeiladu ar gyfer atgyfnerthu Ffordd Mynydd y Rhigos wedi dechrau'n dda. Mae natur y gwaith ar wyneb y graig yn golygu'n bod ni'n dibynnu'n fawr ar dywydd sych, dyma pam bod misoedd yr haf yn allweddol i ni wneud cynnydd cadarnhaol. Mae'r gwaith hyd yn hyn wedi datblygu o'r gwaith cychwynnol sef gosod y safle, i gael gwared ar lystyfiant mewn prif ardaloedd ar ochr y mynydd a phrofi a gosod boltiau yn y graig.
“Fe hoffem ni ddiolch i'r preswylwyr a defnyddwyr ffyrdd am eu hamynedd parhaus yn ystod y cyfnod angenrheidiol yma o gau'r ffordd, tra bo'r gwaith dan sylw'n mynd rhagddo. Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr ei fod yn creu anghyfleustra sylweddol – ond mae’r gwaith yma’n angenrheidiol, gan fod gyda ni gyfrifoldeb i sicrhau bod prif drywydd ar gael yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae ar bawb ei eisiau. Dyw gwneud dim, ddim yn opsiwn, gan y gallen ni wynebu rhagor o berygl o orfod cau'r ffordd oherwydd argyfwng pe byddai cyflwr ochr y mynydd yn gwaethygu.
“Mae ein contractwr yn gwneud cynnydd mor gyflym ac effeithlon â phosib – gan hyd yn oed newid amseroedd sifftiau yn dibynnu ar natur y gweithgarwch ar y safle ac i osgoi cyfnodau lle mae rhagolygon y tywydd yn darogan tywydd gwael. Byddwch yn dawel eich meddwl hefyd ein bod ni, â'r flwyddyn ysgol newydd ar y gorwel, wedi trafod â Charfan Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol RhCT ynghylch y cyfnod wedi mis Medi – ac mae trefniadau teithio amgen yn cael eu rhoi ar waith gydag ysgolion lleol."
Wedi ei bostio ar 19/08/24