Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar adeiladu'r datblygiad gofal ychwanegol newydd ar gyfer ardal Porth

Porth Extra Care 1 - Copy

Mae'r Cyngor a Linc Cymru (Linc) wedi rhoi diweddariad ar y cynnydd cadarnhaol sy'n cael ei wneud o ran adeiladu cynllun tai â gofal ychwanegol newydd ar gyfer ardal Porth.

Fe ailddechreuodd contractwr y prosiect, Intelle Construction, weithgarwch ar y safle ym mis Chwefror 2024, i adeiladu datblygiad o'r radd flaenaf sy'n cynnwys 60 o fflatiau gofal ychwanegol. Bydd yr adeilad pedwar llawr yn cynnwys ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan oriau dydd a swyddfeydd yn ogystal â maes parcio allanol. Bydd y cynllun cyffrous yn dod â safle hen Gartref Gofal Dan y Mynydd yn ôl i ddefnydd.

Roedd gwaith cychwynnol yn ystod yr wythnosau cynharach ar y safle yn canolbwyntio ar seilwaith allweddol, gan gynnwys gwaith draenio yn ogystal â gwaith hoelio pridd, er mwyn cadw arglawdd gorllewinol y safle a'r cwlfert presennol ar ochr ddeheuol y safle.

Mae gwaith tir wedi parhau gan adeiladu sylfeini'r holl adeilad a gosod concrit cyfnerth i'r llawr gwaelod isaf, ger yr arglawdd. Mae siafft y lifft wedi'i hadeiladu a bydd yn cael ei defnyddio fel sylfaen craen yn y cyfnod adeiladu. Bydd defnyddio craen tŵr yn gymorth mawr wrth symud deunyddiau adeiladu o fewn y safle.

Mae’r gwaith o adeiladu’r llety â gofal ychwanegol, a throsglwyddo’r safle o'r contractwr i’r Cyngor, ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn hwyr yn 2025.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r diweddariad yma ar gam adeiladu’r cynllun tai â gofal ychwanegol newydd ar gyfer ardal Porth yn rhoi manylion ar y gweithgarwch cychwynnol sydd wedi'i gynnal ar y safle ers i’r gwaith ailddechrau yn gynharach eleni. Cefais ymweld â'r safle ym mis Mehefin i weld rhywfaint o’r gwaith seilwaith cychwynnol, a oedd yn canolbwyntio ar ddraenio’r safle, cadw strwythurau, a’r gwaith cyntaf tuag at adeiladu sylfeini’r adeilad.

“Mae’r prosiect yma'n dangos ein hymrwymiad gyda Linc i fuddsoddi mewn llety modern gyda chyfleusterau gofal, ac i gynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r cynlluniau gofal ychwanegol diweddaraf yn Aberaman a'r Graig wedi sefydlu eu hunain fel canolbwyntiau poblogaidd yn eu cymunedau - a dyna'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei ailadrodd yn ardal Porth erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

“Fydd ein hymrwymiadau buddsoddi ddim yn dod i ben fan hyn - y llynedd, cytunodd y Cabinet ar raglen gwerth miliynau o bunnoedd i adeiladu llety modern yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre’r Eglwys. Mae hyn yn adlewyrchu’r newid i anghenion pobl sy'n gofyn am ragor o amrywiaeth a dewis o ran llety, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau am genedlaethau i ddod.”

Nododd Richard Hallett, Rheolwr Datblygiadau Linc Cymru: “Mae'r adeilad yma a'r gwasanaethau y bydd yn eu darparu yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf ar brosiect mor nodedig. Mae datblygiad o'r maint yma'n newid yn gyflym ar y safle wrth i'n contractwr symud ymlaen trwy bob cam. Roedd yn wych clywed bod y Cynghorydd Caple wedi mwynhau ei ymweliad â'r safle ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ei dywys o amgylch y safle eto yn ddiweddarach eleni.”

Wedi ei bostio ar 13/08/24