Mae Rhondda Cynon Taf wedi creu hanes gyda naws drefol lwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol tref Pontypridd.
Mae'r Eisteddfod eisoes wedi cadarnhau mai dyma un o'r gwyliau prysuraf erioed! Daeth pobl o bob cwr o'r wlad a thu hwnt i ddathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru rhwng 3 a 10 Awst.
Croesawodd busnesau lleol yr ymwelwyr, gan addurno eu hadeiladau a manteisio ar yr ymadroddion defnyddiol yn nhaflen Rhowch Gynnig ar y Gymraeg y Cyngor. Agorodd siopau yng nghanol y dref stondinau ar y stryd i arddangos eu harlwy, ac roedd staff Cwr y Farchnad a charfan Ardal Gwella Busnes Pontypridd wrth law yn cynnig gwybodaeth a gweithgareddau drwy gydol yr wythnos.
Roedd yna wefr ym Mhontypridd wrth i bobl ymweld â'r dref i brynu cofroddion yr Eisteddfod a manteisio ar gynigion gan fusnesau.
Ar y Maes, cafodd trigolion o bob oed a chefndir gyfle i berfformio yn y pafiliwn hanesyddol wrth i gorau, cerddorion, cantorion a rhagor gamu i’r llwyfan – a hynny yn fyw ar y teledu. Roedd y Safle Seindorf yn gyfle i fwynhau perfformiadau byw trwy gydol y dydd, gydag ysgolion, corau cymunedol, cantorion lleol, dawnswyr a cherddorion yn diddanu'r dorf.
Roedd rhaglen o achlysuron ymylol y gallai pawb eu mwynhau hefyd, gan gynnwys arddangosfeydd rhad ac am ddim, sgyrsiau, cerddoriaeth a pherfformiadau yn Amgueddfa Pontypridd, yn ogystal â chyfle i wylio gweithgareddau'r Eisteddfod yng Nghlwb y Bont.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae’r adborth sydd wedi dod i law gan Eisteddfodwyr ac aelodau'r gymuned leol wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae ymwelwyr newydd â Phontypridd a'r selogion fel ei gilydd wedi dweud eu bod nhw wedi mwynhau eu hamser yma yn fawr, ac mai’r Eisteddfod yma yw’r orau y maen nhw wedi’i mynychu.
“Mae hi wedi bod yn wych gweld y dref yn llawn pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer yr achlysur llwyddiannus yma, ac mae pobl yr ardal wedi estyn croeso cynnes arbennig i bob un ohonyn nhw.
“Dyma ymweliad cyntaf rhai pobl â Rhondda Cynon Taf, ac maen nhw wedi bod wrth eu boddau gyda'r profiad. P'un a ydyn nhw wedi treulio amser yn y dref, y Parc neu Lido Ponty; neu deithio ymhellach i fanteisio ar gynigion arbennig i ddeiliaid tocynnau'r Eisteddfod mewn atyniadau megis Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, rydyn ni wedi arddangos yr hyn sydd ar gael yma.
“Diolch o galon i bawb sydd wedi ymweld â ni dros yr wythnos ddiwethaf. Rydyn ni mor falch eich bod chi wedi mwynhau, ac yn gobeithio eich gweld chi eto'n fuan. Tra bod yr achlysur ei hun wedi para am wyth diwrnod, rydyn ni'n gobeithio y bydd gwaddol yr Eisteddfod yn golygu y bydd ymwelwyr yn dod yn ôl i’r dref a’r Fwrdeistref Sirol am flynyddoedd lawer i ddod.”
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Gwasanaethau Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Rydyn ni'n falch o’r ffordd y mae ein cymunedau wedi cofleidio’r Eisteddfod, yn enwedig o ran croesawu pobl o bob cwr o Gymru a’r byd i’w busnesau, siarad Cymraeg gyda nhw ac arddangos treftadaeth a diwylliant hynod ein sir.
“Cafodd plant, pobl ifainc a thrigolion o bob cefndir gyfle i ymgolli yn y Gymraeg a’i diwylliant, beth bynnag fo'u gallu, a gobeithio bod hyn wedi eu hysbrydoli i ddechrau'i dysgu neu barhau â’u taith o ran y Gymraeg.
“Roedd pawb yn gwybod y byddai'r wythnos yma'n wych, ond doedden ni ddim wedi ystyried pa mor arwyddocaol y byddai hi. Mae wedi bod yn brofiad arbennig i ni fod yn rhan o’r achlysur anhygoel yma a gweld ein trigolion o bob oed yn ymgysylltu â’n hiaith a’n diwylliant. Gobeithio y bydd hynny’n parhau ymhell i’r dyfodol.”
Wedi ei bostio ar 12/08/2024