Bydd angen cau ffordd a chyflwyno trefniadau bws dros dro yn rhan o gynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd yn Heol Graigddu a Heol y Ficerdy, Dinas (27-30 Awst).
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, 27-30 Awst, a bydd angen cau ffordd leol rhwng cyffyrdd Heol Graigddu â Heol Dinas a Heol Aubrey.
Mae manylion y ffordd sy'n cael ei chau a llwybrau amgen i'w gweld ar y map canlynol sydd ar wefan y Cyngor.
Bydd y llwybr amgen yn mynd ar hyd Heol y Ficerdy, Heol Dinas, a’r A4058 – neu mae modd dilyn y llwybr yma yn y drefn wrthdro.
Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, cerddwyr ac i bob eiddo. Bydd modd i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
Dyma roi gwybod i ddefnyddwyr bysiau na fydd modd i wasanaeth 173 Thomas of Rhondda (Cwm Clydach-Porth) gasglu teithwyr o safleoedd bws ar Heol Graigddu, Heol Aubrey, Heol y Ficerdy, Stryd y Banc na Stryd James yn ystod y gwaith. Bydd y gwasanaeth yn teithio ar hyd Bryn Amos.
Mae'r gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gyflawni yn rhan o raglen gyfalaf y Cyngor gwerth £7.5miliwn ar gyfer adnewyddu ffyrdd cerbydau a llwybrau troed yn 2024/25.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 21/08/24