Skip to main content

Arbrawf disgyblion o Dreorci yn cael ei anfon i'r gofod!

mission discovery

Roedd tri disgybl o Ysgol Gyfun Treorci yn rhan o dîm buddugol ‘Mission Discovery’ a byddant yn gweld eu prosiect yn mynd i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol.

Ddydd Llun, 8 Gorffennaf, gadawodd 24 o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 11 a 12 o 7 ysgol ar draws RhCT am Goleg y Brenin Llundain i gymryd rhan mewn ysgol haf gofod wythnos o hyd o’r enw ‘Mission Discovery’. Bu’r disgyblion yn gweithio’n galed yn ystod yr wythnos yn dylunio arbrofion y gellid eu lansio i’r gofod, gyda chymorth y gofodwr Dafydd ‘Dave’ Williams ac arbenigwraig NASA Sarah Murray.

Ysgol haf sy'n ymwneud â'r gofod yw Mission Discovery sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Ysgol Ofod Rhyngwladol sy'n croesawu myfyrwyr o'r DU a myfyrwyr rhyngwladol. Mae ysgol Mission Discovery yn canolbwyntio ar ddatblygu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ond mae hefyd yn rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc gysylltu, cael mewnwelediad gan ofodwyr NASA, a chydweithio ar brosiect a allai gael ei lansio i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol.

Roedd Harry, Alan a Zhuoyi, disgyblion o Ysgol Gyfun Treorci, yn rhan o’r tîm buddugol a byddant yn gweld eu harbrawf yn mynd i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol! Mae'r arbrawf yn gobeithio profi a ellir cynhyrchu golau cwantwm yn y gofod.

Cynhaliwyd yr ysgol haf rhwng 8fed – 12fed Gorffennaf a mynychodd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Aberpennar, Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gymunedol y Porth, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Gyfun Treorci, ac Ysgol Cwm Rhondda yr ysgol haf i gymryd rhan.

Dywedodd Jennifer Ford, Pennaeth Ysgol Gyfun Treorci: “Roedd y prosiect Mission Discovery yn hynod fuddiol i’n myfyrwyr, fe ddatblygon nhw eu sgiliau gwaith tîm, creadigrwydd ac arweinyddiaeth, gan lunio  arbrawf gwych. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae eu harbrawf yn gwneud yn yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, a sut y bydd hyn yn ysbrydoli ein myfyrwyr. Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw, ac mae’r adborth am y profiad wedi yn arallfydol – mae’r chwarae ar eiriau’n fwriadol!”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Cynhwysiant a’r Iaith Gymraeg: “Am gyfnod cyffrous i Harry, Alan a Zhuoyi gan fod eu harbrawf ar ei ffordd i’r gofod! Mae’r ysgol haf wedi rhoi profiadau amhrisiadwy iddynt a’u hysbrydoli i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiadau newydd yn y dosbarth ac i’w rhannu gyda’u cyd-ddisgyblion.

“Mae’r prosiect Mission Discovery, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan y Cyngor, yn amlygu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ar draws ein Bwrdeistref Sirol.”

Wedi ei bostio ar 12/08/24