Skip to main content

Aelod o'r Cabinet yn ymweld â chamau cynnar datblygiad llety gofal yn y Gelli

Gelli site visit

Mae Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â safle'r gwaith yn y Gelli lle mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau'n ddiweddar i adeiladu llety gofal arbenigol newydd. Bydd y cyfleuster modern yn darparu gofal ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu.

Cafodd y Cynghorydd Gareth Caple ei groesawu gan gontractwr y Cyngor, Langstone Construction Group, yn ystod yr ymweliad ddydd Iau, 19 Rhagfyr. Dechreuodd cam adeiladu'r prosiect yn ystod mis Tachwedd 2024, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn 2026. Mae'r llety arbenigol newydd yn cael ei adeiladu ar hen safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn sydd bellach ddim yn cael ei ddefnyddio.

Bydd y safle amlwg ar Heol Colwyn yn cael ei ddatblygu yn llety gofal arbenigol newydd fydd yn cynnwys 14 ystafell wely ag ystafell ymolchi gyda darpariaeth gofal seibiant. Bydd y rhain yn cael eu hadeiladu ar islawr gwaelod, llawr gwaelod a llawr cyntaf. Bydd iard i orllewin yr adeilad, a bydd y maes parcio a mynediad i'r safle yn aros fel y maen nhw yn y datblygiad.

Bydd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau modern megis tair ystafell oriau dydd, tair ystafell synhwyraidd, cegin fasnachol, ardal trin gwallt, ystafelloedd ymolchi hygyrch ac ystafell hyfforddi. 

Ers i'r gwaith ddechrau ar 18 Tachwedd, mae Langstone Construction Group wedi gwneud cynnydd cadarnhaol – er gwaethaf y tywydd garw diweddar.

Hyd yma, mae'r canolbwynt wedi bod ar symud mwy na 6,000 tunnell o ddeunydd a gloddiwyd o safle'r gwaith. Mae hyn wedi'i gwblhau er mwyn paratoi ar gyfer gosod sylfeini'r adeilad, sef tasg fawr nesaf y prosiect – ochr yn ochr ag adeiladu waliau cynnal, seilwaith draenio ac is-strwythurau.

Yn y gymuned, mae'r contractwr wedi sefydlu perthynas dda iawn gyda'r lleoliadau addysg feithrin a chynradd gerllaw. Mae wedi noddi rhaglen 'Bumbles of Honeywood' yng Nghylch Meithrin Bronllwyn, sy'n datblygu sgiliau entrepreneuraidd pobl ifainc, ac mae hefyd wedi darparu festiau llachar ar gyfer disgyblion meithrin a chynradd sy'n mynychu'r ysgolion.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â'r safle gwaith yn y Gelli fore Iau, i nodi dechrau'r cam adeiladu ar gyfer y datblygiad llety gofal newydd pwysig yma. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod 2024 tuag at gyflawni'r prosiect yma yn 2026 – gyda'n gwaith yn mynd rhagddo o ddymchwel adeiladau'r hen gartref gofal yn gynharach yn y flwyddyn, i benodi contractwr a dechrau ar y prif waith adeiladu.

“Mae’r datblygiad yma sy’n werth miliynau o bunnoedd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu wedi’i dargedu i ddiwallu anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol, ac mae’n rhan o’n buddsoddiad ehangach i foderneiddio opsiynau llety gofal i oedolion, gan gynnwys pobl hŷn. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi adeiladu cynlluniau tai Gofal Ychwanegol yn Aberaman a'r Graig – sy'n parhau i fod yn boblogaidd iawn – ac ar hyn o bryd rydyn ni'n adeiladu trydydd cynllun tai yn y Porth.

“Mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno ar fuddsoddiad pellach ar gyfer tri datblygiad modern – i ddarparu cyfleuster gofal dementia pwrpasol yng Nglynrhedynog, llety gofal ychwanegol a gofal dementia yn Aberpennar, a llety ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys.

"Hoffwn i ddiolch i gontractwr y Cyngor, Langstone Construction Group, am ei groeso cynnes i safle’r gwaith yn y Gelli ddydd Iau. Roedd yn wych gweld bod y cynllun yn gwneud cynnydd pwysig yn ei wythnosau cynnar, a bod y contractwr hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y gymuned – yn enwedig at y ddau leoliad addysg sydd wedi'u lleoli ger safle'r gwaith. Rwy'n edrych ymlaen at weld y safle'n cael ei drawsnewid ymhellach dros y misoedd nesaf."

Mae'r cam adeiladu yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y gymuned leol. Os oes gan drigolion unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith neu weithgarwch ar y safle, cysylltwch â Rheolwr Prosiect y Contractwr (rthomas@langstoneconstruction.com) neu’r Rheolwr Gwerth Cymdeithasol ar gyfer y Cynllun: (rjohn@langstoneconstruction.com).

Wedi ei bostio ar 19/12/2024