Mae'r Cabinet wedi rhoi ystyriaeth derfynol i'r newidiadau arfaethedig i drefniadaeth ysgolion yn Nhonyrefail a Thrallwng, yn dilyn ymgynghoriad ar y cynigion. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gan swyddogion, mae'r Aelodau wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r cynigion yma.
Trafodwyd dau adroddiad ar wahân yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 16 Rhagfyr. Roedden nhw'n ymwneud â'r cynigion i gau Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg yn Nhonyrefail (gyda disgyblion yn cael eu symud i Ysgol Gymuned Tonyrefail erbyn Medi 2025) a chau Ysgol Babanod Trallwng (gyda disgyblion yn cael eu symud i Ysgol Gynradd Coedpenmaen erbyn Medi 2025).
Roedd adroddiadau a gyflwynwyd i’r Cabinet ddydd Llun yn amlinellu’r adborth a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y ddau gynnig, a gynhaliwyd rhwng 30 Medi a 15 Tachwedd. Roedd y gwaith ymgynghori yn cynnwys cyfarfodydd â Chyrff Llywodraethu a staff, cyfarfodydd wyneb yn wyneb â Chynghorau'r Ysgolion, a sesiynau 'galw heibio' cyhoeddus a gynhaliwyd yn lleol.
Cafodd y gweithgarwch ymgysylltu a'r adborth a ddaeth i law eu crynhoi mewn Adroddiadau Ymgynghori manwl ar gyfer y naill gynnig a'r llall. Cafodd y rhain eu hystyried yn llawn gan y Cabinet er mwyn llywio ei benderfyniad terfynol ddydd Llun. Yn ystod y cyfarfod, cynigiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg argymhelliad i beidio â bwrw ymlaen â’r cynigion, ac fe gytunodd holl Aelodau'r Cabinet â hyn.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau diweddar ar y newidiadau arfaethedig i drefniadaeth ysgolion yn Nhonyrefail a Thrallwng. Mae'r adborth a ddaeth i law wedi ein helpu ni i ddeall rhagor am safbwyntiau a materion lleol mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig. Rydyn ni'n deall bod ystyried newidiadau addysg fel y rhain yn brosesau anodd ac emosiynol iawn, ac mae gwrando ar farn pobl bob amser yn fater pwysig i ni wrth wneud penderfyniadau o'r fath.
“Cafodd y cynigion yma eu dwyn ymlaen wrth i ni barhau i wynebu penderfyniadau anodd iawn, gyda’r sector cyhoeddus yn ceisio dygymod â chyfnod o doriadau parhaus o ran cyllid. Mae ffactorau megis costau byw hefyd yn rhoi rhagor o faich ar wasanaethau allweddol y rheng flaen, ac mae angen i ni flaenoriaethu'r rhain.
“Mae rhesymeg glir i'r cynigion i gau Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg ac Ysgol Babanod Trallwng, ac roedd hyn yn seiliedig ar ostyngiad cyson yn niferoedd disgyblion ac awydd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol. Serch hynny, nid oedd y cynigion byth yn tanseilio ansawdd y gwaith addysgu ym mhob ysgol. Mae’n amlwg bod y ddwy ysgol yn ennyn parch trigolion lleol, a'u bod yn ysgolion llawn brwdfrydedd sy'n blaenoriaethu lles eu disgyblion a'u staff.
“Ar ôl gweld ac ystyried yr holl adborth a gyflwynwyd ym mhob Adroddiad Ymgynghori, a’r themâu sydd wedi dod i’r amlwg, mae barn y Cabinet ychydig yn wahanol i'w farn wreiddiol pan ddygwyd y cynigion yn eu blaenau yn y lle cyntaf. Cytunodd yr Aelodau i roi diwedd ar y cynigion yma, ac i beidio â bwrw ymlaen â'r newidiadau i drefniadaeth ysgolion yn Nhonyrefail a Thrallwng ar hyn o bryd.”
Roedd yr Adroddiadau Ymgynghori yn cynnwys manylion yr adborth a ddaeth i law. Mewn perthynas â chynnig Tonyrefail (Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg), daeth 98 o ymatebion i law, ac roedd 86 ohonyn nhw'n anghytuno â'r newidiadau. Hefyd, ychwanegwyd 714 o lofnodion at ddeiseb ar-lein yn gwrthwynebu'r cynnig. Ar gyfer cynnig ardal Trallwng (Ysgol Babanod Trallwng), daeth 160 o ymatebion i law – gyda 136 ohonyn nhw'n anghytuno â’r newidiadau, ynghyd â deiseb gyda 1,150 o lofnodion yn gwrthwynebu’r cynnig.
Roedd yr adroddiadau'n cynnwys ymateb ffurfiol Estyn. Roedd Estyn o'r farn ei bod hi'n debygol y byddai'r newidiadau o leiaf yn cynnal safon yr addysg a ddarperir.
Roedd yr adroddiadau hefyd yn nodi bod arolygon cyflwr newydd ar gyfer y ddwy ysgol y bwriedir eu cau wedi’u cynnal ym mis Tachwedd 2024. Cafodd y rhain eu cynnal yn dilyn cwblhau gwaith gwella ychwanegol rhwng yr ymweliad safle gwreiddiol ar gyfer yr arolwg cyflwr a'r broses sicrwydd ansawdd derfynol. O ganlyniad i hyn, cafodd ffigurau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw a chategorïau cyflwr y ddwy ysgol eu diweddaru ar ôl i'r adroddiad gwreiddiol gael ei gyflwyno i'r Cabinet.
Wedi ei bostio ar 17/12/2024