O ganlyniad i haelioni staff a myfyrwyr arlwyo Coleg y Cymoedd, cafodd 170 o bobl ddigartref sy'n byw mewn llety gwely a brecwast ledled Rhondda Cynon Taf ginio Nadolig, pwdin a phecyn gofal.
Cafodd y prydau a'r pecynnau gofal eu hariannu gan Bennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol, Carfan Swyddfa Campws Aberdâr ac Inner Wheel Aberdâr, eu paratoi gan Goleg y Cymoedd a'u dosbarthu gan Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol ac Ymgysylltu RhCT.
Cafodd y prydau eu darparu gyda chracer Nadolig, napcyn, cerdyn oddi wrth fyfyrwyr a staff Coleg y Cymoedd a phecynnau gofal a oedd yn cynnwys brws dannedd, pâst dannedd bach, crib, nwyddau ar gyfer y gwallt, nwyddau ymolchi gan gynnwys sebon a ffyn cotwm a nwyddau mislif.
Dechreuodd prosiect Gweithgareddau Gwrthdyniadol ac Ymgysylltu ym mis Hydref 2023, lle cysylltwyd â holl golegau'r ardal i ofyn iddyn nhw ddarparu cinio Nadolig i bobl y mae'r garfan yn eu cefnogi. Ymatebodd Benjamin Barnett, Coleg y Cymoedd, i'r cais yma a darparodd brydau i bobl ym mwyty'r coleg, yn ogystal â nwyddau ymolchi, dillad cyfforddus, taleb Greggs gwerth £5 a llawer yn rhagor. Cysylltodd Benjamin â ni eto eleni i roi gwybod yr hoffai wneud rhywbeth tebyg a helpu rhagor o bobl mewn angen.
Meddai Sophie Scudamore, Swyddog Gweithgareddau Gwrthdyniadol ac Ymgysylltu Rhondda Cynon Taf: “Cawson ni ein syfrdanu gan haelioni Coleg y Cymoedd a bydd hyn yn codi calon rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed.
“Mae llawer o bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw ledled Rhondda Cynon Taf na fydden nhw wedi cael cinio Nadolig fel arall heb y rhodd hael yma gan staff, myfyrwyr a'r unigolion a gyfrannodd at yr achos o Goleg y Cymoedd. Mae'n galonogol gweld sut mae'r gymuned yn dod ynghyd i gefnogi'r bobl mewn angen yn ystod yr adeg anodd yma o'r flwyddyn.”
Mae'r Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol yn gweithio gyda phobl ddigartref sy'n byw mewn llety dros dro a llety â chymorth. Mae'n darparu gweithgareddau ystyrlon yn y gymuned ac yn y llety. Mae'r garfan yn cynnig hyfforddiant a chymorth cyflogaeth a chyfleoedd i fagu hyder a hunan-barch pobl trwy weithgareddau amrywiol. Mae pobl hefyd wedi derbyn cardiau mynediad at y gampfa gan yr adran Hamdden am Oes i hyrwyddo iechyd a lles.
Meddai Benjamin Barnett, Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd: “Roedd gallu helpu cynifer o bobl gyda chymorth a gwaith trefnu'r Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol yn arbennig i ni.
“Hoffwn i ddiolch i Dorian, Pennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol, yn arbennig am ariannu'r prosiect yma. Heb Dorian, Carfan Swyddfa Campws Aberdâr ac Inner Wheel Aberdâr, fydden ni ddim wedi gallu dechrau'r prosiect yma.
“Diolch yn fawr iawn i bawb oddi wrthyf i, Natasha a'n myfyrwyr am roi cyfle i ni helpu cynifer o bobl eleni.”
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Diolch enfawr i staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd am eu haelioni yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn. Mae'r Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol a Choleg y Cymoedd wir wedi dangos ymdeimlad cymdogol ac undod trwy gefnogi rhai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yn y gymuned, sydd wedi derbyn bwyd a phecyn gofal hyfryd eleni. Does dim amheuaeth y bydd hyn yn gwneud gwir wahaniaeth iddyn nhw.”
Fel Cyngor, rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd barhau i fod yn gefnogol ac i beidio â beirniadu pobl ddigartref dros gyfnod y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn.
Wedi ei bostio ar 18/12/2024