Bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â chynigion i ehangu ei ddarpariaeth ysgol gynradd i baratoi ar gyfer y galw yn y dyfodol o ddatblygiad tai Llanilid – mae hyn yn cynnwys sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ac ehangu'r capasiti yn ysgol bresennol Ysgol Gynradd Dolau. Mae hyn yn dilyn ystyriaeth y Cabinet o'r adborth a ddaeth i law yn ystod ymgynghoriad diweddar.
Ym mis Gorffennaf 2024, ystyriodd y Cabinet y cynigion addysg diweddaraf ar gyfer yr ardal leol, sydd eu hangen i ddarparu ar gyfer cynlluniau'r datblygwr tai i adeiladu 1,850 o gartrefi ar hen safle glo brig Llanilid. Mae'r datblygiad yn mynd rhagddo gyda mwy na 400 o dai eisoes wedi'u hadeiladu, a bydd hefyd nifer o fwynderau eraill yn cael eu creu, gan gynnwys ysgol gynradd.
Mae cynigion addysg y Cyngor yn cael eu llywio gan Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a'i Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ei hun. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno ddim hwyrach na blwyddyn academaidd 2027/28, ac yn cynnwys y canlynol:
- Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer plant 3-11 oed yn rhan o ddatblygiad tai Llanilid, gyda lle i 480 o ddisgyblion oedran ysgol statudol ynghyd â 60 o leoedd meithrin.
- Newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o ysgol sydd â dwy ffrwd iaith i ysgol cyfrwng Saesneg. Byddai ganddo gapasiti mwy ar gyfer 488 o ddisgyblion oedran statudol ynghyd â 63 o leoedd meithrin, wedi'u darparu trwy addasiadau ar raddfa fach i ail-ddefnyddio lleoedd presennol.
Cafodd ymgynghoriad ar y cynigion ei gynnal rhwng 9 Medi a 25 Hydref, o dan drefniadau Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Yna cafodd adroddiad ymgynghori manwl ei gyflwyno i'r Cabinet ar Ddydd Mercher, 20 Tachwedd. Mae'r adroddiad ar gael i'w weld yn llawn ar wefan y Cyngor, yma.
Yn rhan o’r ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r staff a’r Corff Llywodraethu yn Ysgol Gynradd Dolau, ynghyd â chyfarfod ar wahân gyda'r Cyngor Ysgol. Cafodd sesiwn 'galw heibio' cyhoeddus ei threfnu hefyd er mwyn i drigolion allu trafod y cynigion gyda swyddogion, a llenwi arolwg. Cafodd y themâu allweddol o'r cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn eu cofnodi a'u cynnwys yn yr adroddiad ymgynghori.
Derbyniwyd cyfanswm o 99 o ymatebion ysgrifenedig drwy gydol yr ymgynghoriad ehangach – gyda 50 yn cytuno â’r cynigion, 37 yn erbyn, a’r gweddill yn dweud eu bod yn ansicr (10) neu heb roi ateb i’r cwestiwn yma (2). Roedd ymateb Estyn yn ystyried y byddai cynigion y Cyngor yn debygol o gynnal safonau presennol y ddarpariaeth addysg yn yr ardal.
Mae'r adroddiad ymgynghori yn cynnwys crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y broses, ac yn ymateb i unrhyw faterion a godwyd. Mae hefyd yn rhoi cofnodion y cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn yr ysgol, yn ogystal ag ymateb llawn Estyn.
Ar ôl ystyried yr holl adborth, cytunodd Aelodau'r Cabinet ag argymhellion y swyddogion yng nghyfarfod dydd Mercher - sef symud y cynigion ymlaen i'r cam nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol – sy’n ymwneud â sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd a throsi Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol cyfrwng Saesneg yn unig, gyda chapasiti mwy.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Bydd y datblygiad tai sylweddol sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Llanilid yn dod â chynnydd mawr i’r boblogaeth leol, ac mae’r Cyngor wedi cymryd agwedd ragweithiol iawn i baratoi darpariaeth Addysg ychwanegol ar gyfer yr ardal, y bydd eu hangen ar y 1,850 o gartrefi newydd. Yn yr haf, cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar gynigion cyffrous sy’n darparu datrysiad, sy’n cynnwys sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd.
“Ar gyfer dysgu cyfrwng Cymraeg, byddai’r cynnig yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf mewn lleoliad newydd sbon sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif – a byddai’n cynyddu’n sylweddol nifer y lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg o gymharu â’r cynnig presennol. Mae hyn yn cydymffurfio â gweledigaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru, a'r saith ymrwymiad yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ar gyfer y disgyblion hynny sy'n dewis addysg cyfrwng Saesneg, byddai Ysgol Gynradd Dolau, sy'n cyflawni'n dda iawn, yn cael ei chadw, gyda chynnydd mewn capasiti yn seiliedig ar yr angen sy'n cael ei ragweld.
“Ddydd Mercher, fe wnaeth y Cabinet ystyried yr holl wybodaeth a gafodd ei gyflwyno yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar. Mae’n bwysig nodi bod mwy na 50% o’r ymatebwyr ysgrifenedig yn cytuno â’r cynigion, tra bod Estyn wedi dod i’r casgliad y byddai’r safonau addysg presennol yn debygol o gael eu cynnal pe bai’r cynigion yn mynd yn eu blaenau. Yn unol ag argymhellion y swyddogion, symudodd yr Aelodau'r cynigion ymlaen i'r cam hysbysiad statudol, sy'n garreg filltir allweddol ar gyfer cyflawni erbyn 2027/28.
“Mae gan y Cyngor hanes rhagorol o ddarparu cyfleusterau addysg newydd sbon, a'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sy'n gwasanaethu Llanilid fyddai'r diweddaraf. Yn ddiweddar, cafodd buddsoddiad gwerth £79.6 miliwn ei ddarparu ar draws Beddau, y Ddraenen Wen, Cilfynydd a Rhydfelen, tra bod Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi wedi derbyn adeiladau ysgol newydd sbon. Bydd Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn elwa o fuddsoddiad tebyg yn 2025, ac rydyn ni hefyd yn adeiladu safle ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn.”
Byddai gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Llanilid ystafelloedd dosbarth modern, cyfleusterau cwbl hygyrch a hyblyg, gofod ar gyfer ymyraethau Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac ardaloedd i’w defnyddio gan Ysgol Gynradd Dolau a’r gymuned. Bydd mannau awyr agored modern yn cefnogi'r cwricwlwm ac yn gwella llif traffig.
Byddai cost cyfalaf yr ysgol yn cael ei thalu gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â buddsoddiad drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Byddai'r buddsoddiad bychan sydd ei angen yn Ysgol Gynradd Dolau yn cael ei dalu o gyllideb graidd y Cyngor. Byddai unrhyw gyllid pellach, er enghraifft costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, yn cael ei nodi wrth i'r prosiect fynd rhagddo.
Wedi ei bostio ar 03/12/2024