Skip to main content

Setliad Dros Dro Addawol gan Lywodraeth Cymru

Mae Arweinydd y Cyngor wedi bod yn siarad am Setliad Llywodraeth Leol dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26. Mae'r Setliad yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd pwysig o ran cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb ddrafft ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr, roedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys manylion £1.5 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus – yn ogystal â nodi y byddai Cynghorau Cymru yn derbyn cynnydd cyffredinol o 4.3% o ran cyllid yn rhan o'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2025/26.

Cyhoeddwyd manylion penodol yn ymwneud â'r setliad ar ddydd Mercher, 11 Rhagfyr. Mae'r manylion yma'n nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn gweld cynnydd pwysig o 4.7% ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd y setliad yn ffactor allweddol wrth i swyddogion fynd ati i bennu Cyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer 2025/26, ochr yn ochr â'r adborth a dderbyniwyd gan y cyhoedd yn ystod cam un o'r ymgynghoriad ar y gyllideb, sy'n dod i ben yr wythnos hon (12 Rhagfyr).

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn cynnwys llawer o agweddau cadarnhaol i bobl ledled Cymru. Mae’n cynnig £600 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae angen y cyllid yma er mwyn lliniaru'r pwysau sydd ar y GIG – yn ogystal â chyllid ychwanegol ar gyfer holl adrannau'r Llywodraeth. Mae'r setliad hefyd yn cynnwys rhagor o gyllid er mwyn atgyweirio a monitro tomenni glo, ochr yn ochr â deddfwriaeth newydd i wella diogelwch tomenni nas defnyddir, er budd yr hen gymunedau glofaol fel y rhai sydd i'w gweld yn RhCT.

“Mae'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher yn nodi cynnydd gwerth 4.7% yn y cyllid sy'n cael ei ddyrannu i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2025/26. Mae hyn yn ganlyniad teg a chadarnhaol iawn gan ystyried y pwysau ariannol enfawr y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pwysig i ddiogelu'r gwasanaethau allweddol rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw, gan sicrhau cyllid ychwanegol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion, y Gyllideb ddrafft yma yw'r gyllideb gyntaf yn dilyn 14 mlynedd o gyni yn y sector cyhoeddus – fydd hi ddim yn hawdd dadwneud effeithiau'r blynyddoedd yma.

“Yn ogystal â chostau byw uchel a pharhaus a'r galw enfawr ar draws gwasanaethau fel y gwasanaethau gofal cymdeithasol, bydd pob Cyngor yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau ariannol yn y tymor byr a'r tymor canolig. Er ein bod ni'n croesawu'r cynnydd dros dro yn y gyllideb ar gyfer Rhondda Cynon Taf, byddwn ni'n dal i wynebu bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn mynd i'r afael â hyn.

“Bydd swyddogion yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o bennu ein Cyllideb ddrafft â’r Cabinet yn fuan, gan ystyried y setliad ffafriol gan Lywodraeth Cymru a’r adborth o gam cyntaf ein hymgynghoriad â'r cyhoedd.”

Roedd ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig tair blynedd a rannwyd ym mis Medi 2024 wedi cynnig cyd-destun o ran y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn pennu cyllideb y flwyddyn nesaf - a bu swyddogion yn modelu senario a oedd yn cynnwys setliad arian gwastad. Ar sail yr uchod, y bwlch yn y Gyllideb ar gyfer 2025/26 oedd £35.7 miliwn, gan gynyddu i £91.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Ym mis Tachwedd 2024, rhoddodd Swyddogion ddiweddariad ar waith cynnar y Cyngor i nodi a chyflawni mesurau lleihau'r gyllideb, gan sicrhau bod modd gwneud arbedion cynnar. Cyfanswm y mesurau lleihau'r gyllideb yma oedd £10.28 miliwn, ac roedd yn cynnwys dros £7.1 miliwn mewn mesurau effeithlonrwydd cyffredinol.

Dechreuodd cam un yr ymgynghoriad ar gyllideb flynyddol y Cyngor ar 31 Hydref, gan ganolbwyntio ar arbedion effeithlonrwydd a meysydd buddsoddi â blaenoriaeth. Mae'r cam yma'n dod i ben yr wythnos hon ar 12 Rhagfyr. Bydd ail gam y broses ymgynghori yn canolbwyntio'n benodol ar Gyllideb ddrafft y Cyngor ar ôl iddi gael ei llunio yn y Flwyddyn Newydd.

Wedi ei bostio ar 11/12/2024