Bydd y Cabinet yn ystyried newidiadau i drefniadaeth ysgolion yng nghymunedau Tonyrefail a'r Trallwng yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf. Mae hyn yn dilyn cyfnod ymgynghori ffurfiol yn ystod yr hydref.
Yn ei gyfarfod ddydd Llun, 16 Rhagfyr, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod yr holl adborth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 30 Medi a 15 Tachwedd. Bydd gwybodaeth arall hefyd yn cael ei chyflwyno mewn adroddiad gan Swyddogion.
Cafodd y cynigion eu llunio er mwyn gwella deilliannau addysg, yn ogystal â sicrhau bod ysgolion lleol yn gynaliadwy ac yn y sefyllfa orau i ddarparu addysg o'r radd flaenaf. Byddan nhw hefyd yn sicrhau’r defnydd gorau o arian cyhoeddus yn wyneb yr heriau ariannol parhaus sy'n effeithio ar bob rhan o'r sector cyhoeddus.
Yn Nhonyrefail, y cynnig yw y bydd Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg yn cau ac y bydd disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gymuned Tonyrefail erbyn mis Medi 2025. Bydd hyn yn golygu bod angen ymestyn dalgylch Ysgol Gymuned Tonyrefail. Mae gan yr ysgol 82 o ddisgyblion ar hyn o bryd, sy’n is na’i chapasiti o 157. Mae disgwyl i nifer y disgyblion ostwng ymhellach i 54 erbyn 2028/29 (65.6% o leoedd gwag).
Mae Ysgol Gymuned Tonyrefail eisoes yn darparu'r dalgylch addysg uwchradd ar gyfer disgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg.
Yn y Trallwng, y cynnig yw cau Ysgol Babanod Trallwng a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Gynradd Coedpenmaen erbyn Medi 2025. Mae lle i 105 o ddisgyblion yn ‘Ysgol Babanod Trallwng’, o flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 2. Mae nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol i ddim ond 50 yn 2023/24, i lawr o 75 yn 2019/20. Dim ond 30 o'r disgyblion presennol sy'n byw yn nalgylch yr ysgol. Rydyn ni'n rhagweld mai dim ond 48 o ddisgyblion fydd yn mynychu'r ysgol yn 2028/29 (gan adael 54.3% o leoedd gwag).
Yn ogystal â hynny, byddai'r Cyngor yn buddsoddi mewn gwella cyfleusterau presennol Ysgol Gynradd Coedpenmaen, gan gynnwys ei hadeiladau a'i mannau chwarae allanol. Mae Ysgol Gynradd Coedpenmaen eisoes yn darparu'r dalgylch ar gyfer addysg disgyblion Ysgol Babanod y Trallwng o flwyddyn 3 i flwyddyn 6.
Bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion a'r adborth a ddaeth i law yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar 16 Rhagfyr, ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r newidiadau yma.
Wedi ei bostio ar 13/12/2024