Mae’r Cyngor wedi bod mewn cymunedau lleol i gynnal gweithgareddau sy’n nodi ac yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelwch y Ffyrdd 2024 - gan gynnwys sesiynau hyfforddi diogelwch cerddwyr a beicwyr gyda phobl ifainc yn ein hysgolion.
Bob blwyddyn, mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn cael ei chydlynu ar draws y DU gan elusen Brake, ac roedd rhifyn 2024 ar gael rhwng 17 a 23 Tachwedd. Thema'r ymgyrch eleni oedd bod damweiniau ffordd yn effeithio ar bawb sy'n eu profi - ‘After the crash, every road victim counts’ er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o doll ddinistriol damweiniau ffyrdd. Roedd hefyd yn dathlu’r bobl sy’n cefnogi teuluoedd yn dilyn marwolaeth neu anaf difrifol ar y ffordd.
Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn ddyddiad pwysig yn y calendr ar gyfer Carfan Diogelwch y Ffyrdd ymroddedig y Cyngor. Bob mis Tachwedd, mae swyddogion yn cynnal gweithgareddau addysgol pwysig ar draws y Fwrdeistref Sirol ac mae llawer o'r gwaith ymgysylltu allweddol yma'n digwydd gyda phobl ifainc yn ein hysgolion. Cydlynodd swyddogion y gweithgareddau canlynol i gyd-fynd ag ymgyrch 2024:
- Hyfforddiant 'Kerbcraft' gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain yn Nhrefforest - mae swyddogion wedi cyflwyno cynllun ymarferol hyfforddi cerddwyr, a gynlluniwyd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 i ddysgu sgiliau hanfodol a fydd yn eu helpu i aros yn ddiogel wrth gerdded yn eu cymunedau lleol. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys gweithgareddau ar y strydoedd sy'n agos at yr ysgol.
- Hyfforddiant beic cydbwysedd yn Ysgol Afon Wen yn y Ddraenen Wen - cymerodd tua 120 o ddisgyblion o’r dosbarthiadau Derbyn a Blwyddyn 1 ran i fireinio eu sgiliau, meithrin hyder a gwella cydbwysedd ar feic. Cynhaliwyd yr hyfforddiant ymarferol gyda swyddogion ar iard yr ysgol.
- Hyfforddiant i Gerddwyr Ifainc yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn yn Nhon-teg ac Ysgol Arbennig Park Lane yng Nghwmdâr - yn y sesiynau yma, rhoddodd swyddogion gyflwyniad diddorol i'w disgyblion, gan gynnwys fideo addysgol, am sut i aros yn ddiogel wrth gerdded yn eu cymunedau lleol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn cymryd rhan yn Wythnos Diogelwch y Ffyrdd ac mae swyddogion yn trefnu cyfres o weithgareddau a sesiynau hyfforddi mewn ysgolion a chymunedau lleol iddyn nhw ddysgu sgiliau allweddol i gadw trigolion yn ddiogel ar ein ffyrdd. Mae’n cyd-fynd â gwaith ymgyrch genedlaethol elusen Brake, sydd eleni’n canolbwyntio ar ganlyniadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a’r loes barhaol maen nhw'n ei achosi.
“Yn rhan o weithgareddau 2024, cyflwynodd ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd ymroddedig hyfforddiant diogelwch i gerddwyr neu feicwyr mewn ysgolion yn Nhrefforest, y Ddraenen Wen, Ton-teg a Chwmdâr – gan gyrraedd cannoedd o ddisgyblion yn y broses. Mae hyn yn adeiladu ar waith ein swyddogion gydag ysgolion drwy gydol y flwyddyn. Mae’r garfan hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diogelwch y ffyrdd yn ein cymunedau, gan gynnwys ymarferion ymyl ffordd cyfnodol gyda phartneriaid i sicrhau bod modurwyr yn gwisgo gwregysau diogelwch a ddim yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.”
Dysgwch ragor am weithgareddau Wythnos Diogelwch y Ffyrdd Brake 2024 a’r ymgyrch ‘After the crash, every road victim counts’ ar wefan yr elusen, yma.
Wedi ei bostio ar 04/12/24