Rydyn ni'n disgwyl i Rasys Nos Galan 2024 fod yr achlysur rhedeg gorau eleni, wrth i bencampwraig focsio gyntaf Cymru, Lauren Price MBE, gael ei henwi'n rhedwr dirgel yr achlysur!
Rydyn ni’n falch iawn o allu croesawu un o athletwyr mwyaf llwyddiannus Cymru i Aberpennar.
Rydyn ni’n gwybod y bydd rhedwyr a gwylwyr o bob oed yn falch iawn o weld Lauren Price MBE yma yn Aberpennar heno. Merch y cymoedd yw hi sydd wedi llwyddo yn ei champ. Merch lwcus yw Lauren, yn ôl hi, ond heno ni yw'r bobl lwcus!
Diolch i'w gwaith caled a phenderfyniad llwyr, mae Lauren wedi cyflawni ei nodau. Pan oedd yn blentyn, roedd hi am:
- Fod yn bencampwraig gicfocsio;
- Chwarae pêl-droed dros Gymru ac;
- Ennill aur yn y Gemau Olympaidd.
Hyd yma, hi yw’r UNIG focsiwr o Gymru i ennill medal aur Olympaidd, ac mae hi hefyd wedi ennill pedair pencampwriaeth cicfocsio’r byd a 52 o gapiau dros Gymru. Enillodd y wobr 'Olympiad y Flwyddyn' a hi oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru yn 2021.
Llwyddodd Lauren i amddiffyn ei theitl pencampwraig pwysau welter WBA y Byd ychydig wythnosau yn ôl ac rydyn ni'n disgwyl iddi ennill teitl y byd yn ei gornest nesaf yn y Royal Albert Hall ym mis Mawrth 2025.
Bydd Ria Burrage-Male yn ymuno â hi heno. Mae Ria wedi cystadlu yn y byd chwaraeon ac yn fodel rôl i eraill.
Chwaraeon yw popeth i Ria Burrage-Male, ac mae hynny wedi bod yn wir ers pan oedd hi'n ifanc iawn. Roedd hi wrth ei bodd â nifer o chwaraeon, ond hoci oedd yn mynd â'i phryd. Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad a gwasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru am dros bum mlynedd. Mae hi bellach yn Ymddiriedolwraig Cymru Women's Sport. Hi hefyd yw sylfaenydd cwmni hyfforddiant ac arweinyddiaeth KIBO. Yn ogystal â hyn, mae Ria hefyd yn berchen ar fusnes. Mae ei chlinig podiatreg, Aberdare Feet, ychydig filltiroedd o’r man lle caiff Rasys Ffordd Nos Galan eu cynnal.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Diolch yn fawr iawn i Lauren a Ria am ymuno â ni heno. Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn dathlu campau chwaraeon ac yn gyfle i gadw chwedl Guto Nyth Brân, y dyn cyflymaf yn y byd ar un adeg yn ôl y sôn, yn fyw.
“Mae'r merched yma wedi cyflawni yn eu campau ac yn bersonol. Bydd pawb sy'n gwylio ac yn cymryd rhan yn achlysur Rasys Nos Galan wrth eu boddau i gael y cyfle i weld y merched ysbrydoledig yma heno. Ac mae'n wych gallu dweud mai merched y Cymoedd yw Lauren a Ria!
“Maen nhw’n dangos yr hyn mae modd ei gyflawni diolch i waith caled ac ymroddiad. Rwy’n siŵr bod yna bobl ifanc yn y dorf heno a fydd yn cael eu hysbrydoli ac a fydd, gobeithio, yn parhau i ymroi i beth bynnag maen nhw’n angerddol amdano.
“Am ffordd wych o nodi diwedd 2024 ac ysbrydoli gobaith newydd ar gyfer 2025, gyda dwy chwaraewraig yn ein helpu i gadw chwedl ac ysbryd Nos Galan yn fyw!”
Wedi ei bostio ar 31/12/2024