Mae Rhondda Cynon Taf wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu Fferm Solar newydd Coed Trelái, fydd yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer oddeutu 8,000 cartref yn flynyddol ac yn cynhyrchu ynni uniongyrchol ar gyfer Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Y nod o ran y prosiect yma yw y bydd yn cyflenwi ynni glân, gwyrdd i'r gymuned leol ac yn gymorth sylweddol o ran nod uchelgeisiol y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid yn yr Hinsawdd: “Mae'n wych gweld y prosiect yn dechrau wrth i ni gymryd camau cynta'r daith tuag at orffen Fferm Solar Coed Trelái. Mae'r prosiect uchelgeisiol yma'n rhoi cyfle unigryw i gynhyrchu ynni gwyrdd ar raddfa sylweddol, a chyflenwi ynni'n uniongyrchol i'r Grid Cenedlaethol gan fod yn gymorth o ran diogelu ynni ein cymuned a'r DU."
“Yr hyn sy'n golygu bod i'r prosiect yma hyd yn oed rhagor o effaith yw ei fudd uniongyrchol i'n GIG lleol. Wrth gyflenwi ynni carbon isel i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydyn ni'n helpu i leihau ei ôl troed carbon.”
“Yn ogystal â hynny, gan nad yw'r domen pwll glo wedi'i hadfer, sydd ar y safle, yn addas ar gyfer amaethyddiaeth, mae'r prosiect yma'n dangos sut y gall tir gael ei ailbwrpasu ar gyfer ynni glân wrth fod yn gymorth i fioamrywiaeth ar yr un pryd. Bydd hawliau pori anifeiliaid yn parhau, gan ddangos bod prosiectau ynni solar yn gallu bodoli ochr yn ochr â ffermio i wella bioamrywiaeth.”
Bydd y rhan fwyaf o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu'n cyfrannu at y Grid Cenedlaethol, tra bydd ynni hefyd yn cael ei gyflenwni'n uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gymorth i'w ymdrechion datgarboneiddio.
Dywedodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid ac Arweinydd Gweithredol ar gyfer Datgarboneiddio ar ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, "Rydyn ni hynod falch y bydd yr ysbyty, ar ddiwrnodau braf o haf yn cael ei bweru'n gyfan gwbl gan ynni solar. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hymrwymiadau datgarboneiddio a Chwm Taf Morgannwg Gwyrdd', ac ar sut y gallwn ni gyflenwi gofal iechyd mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Serch hynny, dyw'r cynllun yma ddim yn ddiwedd ar y stori yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac fe fyddwn ni'n cyflenwi rhagor o gynnyrch adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel yn y dyfodol i ddatgarboneiddio pethau hyd yn oed rhagor o ran gofynion ynni'r ysbyty.
"Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni o'r farn bod y cynllun yma'n enghraifft wych o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, cadarnhaol, rhwng Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol."
Wedi'i gyflenwi mewn partneriaeth â Vital Energi, mae'r prosiect fferm solar yn atgyfnerthu ymrwymiad Rhondda Cynon Taf i greu atebion ynni cynaliadwy.
Mae Adam Roche, Pennaeth y gwaith Cyn-adeiladu ar gyfer Vital Energi yn esbonio: "Wrth i ni drosglwyddo o fod yn gymdeithas tanwydd ffosil i un carbon-isel, gall safleoedd fel y domen pwll glo gynt yma sydd wedi'i hadfer, gael ei ailbwrpasu, gan barhau i gyfrannu at isadeiliedd y DU, ond mewn modd cynaliadwy. Mae'r prosiect yma hefyd yn gyfle gwych i fuddsoddi'n lleol drwy benodi isgontractwyr, gweithwyr a phrentisiaid lleol, a phartneru hefyd gydag ystod o achosion lleol fel y gallwn ni, yn ogystal â gwireddu prosiect pwysig, adael gwaddol sy'n parhau, llawn effaith.”
Yn ogystal â'r paneli solar, bydd Vital Energi yn gosod isadeiliedd hanfodol fel isorsafoedd, gwrthdröwyr, a rhwydwaith gwifrau preifat i'r ysbyty, ynghyd â mesurau diogelwch cadarn.
Er mwyn gwella'r safle hyd yn oed yn fwy, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Vital Energi ar welliannau bioamrywiaeth. Ymhlith y gwelliannau sydd wedi'u cynllunio mae blychau bywyd gwyllt a choridorau cynefin i fod yn gymorth i fywyd gwyllt. Bydd yn fodd o sicrhau bod y fferm ynni solar yn rhoi budd o ran ynni ac ecoleg.
Gyda'r gwaith adeiladu nawr wedi dechrau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon yn falch o fod yn arwain y ffordd i ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gymuned, ac yn ehangach na hynny.
Wedi ei bostio ar 03/12/2024