Skip to main content

Annog pobl sy'n mynd allan i gymdeithasu i fod yn DDIOGEL a chofio 'SMART'!

Mae cyfnod y Nadolig bellach ar ei anterth, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog menywod i fod yn DDIOGEL a chofio 'SMART' wrth fwynhau eu nosweithiau allan, ac i gofio bod gyda nhw ffrind yn Angela.

Yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn, mae tafarndai a lleoliadau cymdeithasol yn brysurach nag arfer, ac yn aml yn llawn pobl sydd efallai ddim yn mentro allan yn aml ac a allai fod yn fwy agored i niwed.

Mae Carfan Cymunedau Diogel y Cyngor wedi bod yn cydweithio'n frwd ag asiantaethau partner a'r holl eiddo trwyddedig yn yr ardal i sicrhau bod gweithwyr wedi'u hyfforddi ac yn gwybod sut i gynorthwyo'r rhai a allai fod mewn sefyllfaoedd bregus yn effeithiol.

'Byddwch yn DDIOGEL a chofiwch 'SMART' wrth drefnu cwrdd i gymdeithasu dros gyfnod y Nadolig yn Rhondda Cynon Taf!'

Er mwyn eich helpu chi i gofio'r awgrymiadau da pan fyddwch chi allan, mae'r garfan wedi llunio'r acronym 'SMART' i gadw'n DDIOGEL!

Sgôr – Gwiriwch y sgôr ar y drws bob amser wrth ddewis rhywle i fynd allan am fwyd - mae gyda ni ddigonedd o fusnesau â sgôr o 5 yn Rhondda Cynon Taf! Bwriwch olwg ar y wefan yma i wirio'r sgôr hylendid bwyd cyn i chi fynd ati i drefnu: Chwilio am sgôr hylendid bwyd | Sgoriau Hylendid Bwyd[SD1] .

Mesurau –  Oeddech chi'n gwybod mai dim ond mewn cyfeintiau penodol mae modd gwerthu rhai diodydd fel cwrw a gwin? Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn archwilio tafarndai a chlybiau yn rheolaidd i sicrhau nad yw eich diodydd yn cael eu mesur yn fyr a'u bod yn cael eu disgrifio'n gywir. Dewch o hyd i fanylion y gofynion ar gyfer busnesau yma: Selling alcohol in licensed premises | Business Companion

Angela – Teimlo'n anniogel neu'n anghyfforddus ar eich noson allan? Gofynnwch am 'Angela' wrth y bar i rybuddio'r staff yn dawel fach bod angen help arnoch chi! Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma: Home - Ask For Angela

Rhoi gwybod am ddigwyddiad – Dylai fod modd i drigolion fwynhau eu dathliadau heb orfod goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhowch wybod i Heddlu De Cymru am achosion a byddwn ni'n cydweithio â nhw: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/asb/asb-v3/riportio-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/. Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Tacsi – Ewch adref yn ddiogel, a defnyddiwch dacsi trwyddedig yn unig! Gwiriwch y platiau ac anfon llun at ffrind fel eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n teithio adref yn ddiogel.

Mae’r holl Lyfrgelloedd yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn gartref i’r cynllun Mannau Diogel, sy’n gweithredu yn ystod oriau golau dydd drwy’r flwyddyn. Mae'r cynllun Mannau Diogel, sef cynllun cenedlaethol sy’n cael ei hwyluso gan y Cyngor a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf, yn sefydlu lleoliadau sy’n cynnig cymorth i rywun os ydyn nhw'n dod ar draws problem neu anawsterau pan fyddan nhw allan yn y gymuned, gyda chymorth gan staff hyfforddedig. Mae'r cynllun lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gefnogi gan Heddlu De Cymru ac mae bellach ar gael i bob oedolyn sy'n teimlo eu bod angen lle diogel i fynd iddo.

Mae modd i bobl neu deuluoedd sy'n teimlo y bydden nhw'n manteisio ar y cynllun Mannau Diogel wneud cais am ffurflen gais. Mae'r rhain ar gael drwy e-bostio Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, enquiries@rctpeoplefirst.org.uk, neu drwy ffonio 01443 757954.

Mae'r Cyngor hefyd yn atgoffa pawb sy'n mynd allan i ddathlu bod gan Rondda Cynon Taf Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) llym mewn perthynas ag Alcohol. Mae'r gorchymyn wedi bod ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol ers dros chwe blynedd.

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn neilltuo ardal gyfan Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir i roi pwerau i Swyddogion Awdurdodedig i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae modd felly i Swyddogion Awdurdodedig fynnu bod person yn ildio'r alcohol sydd yn ei feddiant, a rhoi'r gorau i yfed os ydyn nhw'n achosi, neu'n debygol o achosi, ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y gosb uchaf am beidio â chydymffurfio yw £100.

Os bydd rhywun yn cael ei ganfod yn yfed alcohol yn y 2 'Barth Dim Alcohol Dynodedig' yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, mae gan Swyddogion y pwerau i gymryd caniau/poteli alcohol sydd wedi'u hagor oddi ar berson. Os byddan nhw'n gwrthod ildio'r alcohol, byddan nhw'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Bydd unigolion sydd wedi cael eu rhybuddio ac sy'n parhau i yfed yng nghanol y dref yn wynebu camau gorfodi pellach, gan gynnwys Hysbysiad Gwarchod y Gymuned a fydd yn eu gwahardd o ganol y dref.

Mae 'parth dim alcohol' Aberdâr yn cynnwys canol y dref, safle Sobell a'i gaeau chwarae (yr Ynys), Gorsaf Drenau Aberdâr a Maes Parcio Pwll Glo'r Gadlys. Mae'r parth ym Mhontypridd yn cynnwys canol y dref, Parc Coffa Ynysangharad, yr orsaf drenau a'r orsaf fysiau.  Mae'r parthau hyn hefyd yn ymwneud â defnyddio sylweddau meddwol, nid dim ond alcohol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Sicrhau Cyfnod y Nadolig Diogel i bawb yw’r brif flaenoriaeth bob amser.Mae'r Cyngor yn annog pawb i gadw'n ddiogel wrth fwynhau cyfnod y Nadolig. Dydyn ni DDIM yn caniatáu yfed ar y stryd yn Rhondda Cynon Taf a gofynnwn i'r rhai sy'n mynd allan i gymdeithasu i gadw'r alcohol ar gyfer y tu mewn i'r eiddo trwyddedig. P'un ai allan gyda ffrindiau, yn cael cinio neu ar ddêt sydd ddim yn mynd fel i chi gynllunio, peidiwch oedi cyn "Gofyn am Angela" i sicrhau eich diogelwch.

“Peth allweddol arall i’w gofio yw gwneud yn siŵr eich bod chi'n defnyddio tacsi trwyddedig. Rhannwch eich lleoliad gyda theulu/ffrindiau, tynnwch lun o’r platiau trwydded – gadewch i’r gyrrwr weld eich bod wedi recordio’r daith. Peidiwch byth â theimlo’n wirion am fod yn or-wyliadwrus - fe allai achub eich bywyd!”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch "Gofyn am Angela" a sut mae'n gweithio, ewch i https://www.met.police.uk/AskforAngela.

I gael rhagor o wybodaeth am Fannau Diogel, cysylltwch â Phobl yn Gyntaf Cwm Taf ar enquiries@rctpeoplefirst.org.uk neu drwy ffonio 01443 757954.

I gael rhagor o wybodaeth am Gymunedau Diogel ewch i www.rctcbc.gov.uk/PartneriaethCymunedauDiogel

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod modd i bawb fwynhau cyfnod y Nadolig mewn modd diogel a llawen.

Wedi ei bostio ar 16/12/2024