Yn ddiweddar, enillodd Sied Dynion Pontypridd wobr Partneriaeth Sied y Flwyddyn 2024 gan Gymdeithas Siediau Dynion y DU (UKMSA) yn rhan o Wobrau'r 'Shed Awards' a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion (19 Tachwedd). Mae'r gwobrau 'Shed Awards' yn dathlu'r mudiad Siediau trwy gydnabod y Siediau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.
Cafodd Sied Dynion Pontypridd ei sefydlu ym mis Mawrth 2022, gan ddechrau gyda dim ond 11 o ddynion lleol. Ers hynny mae wedi ffynnu yn y gymuned, a bellach mae ganddo 49 o aelodau. Cafodd y grŵp ei sefydlu i ddarparu man diogel a lloches i ddynion o bob oed a chefndir mewn lleoliadau lleol, gan gynnwys eu prif ganolfan yn Nhrefforest, Amgueddfa Pontypridd, a’u gweithdy gwaith coed newydd yn Nhrallwn.
Meddai Robert Visintaine, Rheolwr Men's Sheds Cymru/UKMSA: “Mae’n galonogol gweld Sied Dynion Pontypridd yn derbyn y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu. Mae’r wobr yma'n adlewyrchu pŵer trawsnewidiol dynion yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd, gan adeiladu gwydnwch a meithrin cysylltiadau yn eu cymunedau.
“Mae'r partneriaethau maen nhw wedi'u meithrin yn dangos yr hyn mae modd ei gyflawni pan fydd sefydliadau lleol yn uno at ddiben cyffredin, ac mae eu heffaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Sied. Rydyn ni'n dathlu eu llwyddiant fel esiampl o fudiad Siediau yng Nghymru ac ysbrydoliaeth i eraill ar draws y wlad.”
Meddai Rob Lloyd, Cadeirydd UKMSA: “Mae'n fraint enfawr cael bod yn rhan o’r Panel Gwobrau ar gyfer yr achlysur yma, ac mae wedi caniatáu i mi weld cryfder ac ehangder rhyfeddol yr enwebiadau amrywiol. Mewn maes eithriadol, roedd Sied Pontypridd yn llawn haeddu ennill y wobr a dylen nhw deimlo’n hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ers eu sefydlu.
“Ar ôl i fi ymweld â nhw yn gynharach yn y flwyddyn, gallaf dystio eu bod nhw'n grŵp gwych o unigolion, ond yn fwy na hynny, gyda'i gilydd, maen nhw'n gwneud gwahaniaeth nid yn unig i'w gilydd ond i'w cymuned ehangach - a dyna ydy hanfod Siediau Dynion.”
Cafodd y wobr ei rhoi i gydnabod partneriaethau niferus y sied sy’n cydweithio’n gytûn. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithio â Chyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Tref Pontypridd, a grwpiau cymunedol eraill megis ysgolion cynradd lleol, cwmni ffilm, a Phrifysgol De Cymru. Mae’r partneriaethau hyn wedi galluogi’r Sied i gynhyrchu animeiddiadau, cynnal achlysuron, a datblygu Gardd yr Ail Ryfel Byd hyd yn oed, gan arddangos pŵer cydweithio â'r gymuned.
Meddai Adrian Dumphy, Ysgrifennydd Sied Dynion Pontypridd: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael ein cydnabod am ein hymdrechion i adeiladu cymuned gefnogol i ddynion lleol. Mae ein sied yn darparu man hanfodol i ddynion gael cysylltu, rhannu profiadau, a chefnogi ei gilydd.”
Mae Sied Dynion Pontypridd yn cynnal sesiynau wythnosol gan gynnwys Cyfarfod Cymdeithasol dydd Llun sydd hefyd ar gyfer menywod, Cyfarfod Cymdeithasol dydd Mercher (ar gyfer dynion yn unig), sesiynau ysgrifennu creadigol a phodlediadau ar ddydd Mercher a dydd Gwener, a sesiynau gweithdy gwaith coed dyddiol sy'n canolbwyntio ar weithgareddau sied traddodiadol yn y lleoliad newydd yn Nhrallwng. Mae agor y gweithdy wedi galluogi aelodau i ymgymryd â phrosiectau cymunedol bach a fydd yn cyfrannu at ddenu peth incwm ar gyfer cynnal a chefnogi dyfodol y Sied.
Mae aelodau sydd wedi wynebu heriau yn mynegi gwerthfawrogiad aruthrol am yr effaith gadarnhaol y mae’r Sied wedi’i chael ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae’r Sied hefyd yn rhannu gwybodaeth a chyngor pwysig ar gynhwysiant digidol, cyllid, hawlio budd-daliadau, sgamiau, a materion iechyd.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Mae’r gwaith sy'n cael ei wneud gan Sied Dynion Pontypridd yn amhrisiadwy i’r gymuned leol, yn enwedig yn ystod Mis Iechyd Dynion.
“Mae mentrau fel hyn yn hanfodol ar gyfer hybu iechyd meddwl a lles ymhlith dynion, gan sicrhau bod modd iddyn nhw gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
“Mae derbyn gwobr Partneriaeth Sied y Flwyddyn 2024 yng Ngwobrau’r 'Shed Awards' yn dangos yr effaith gadarnhaol aruthrol y mae’r fenter yma wedi’i chael ar y gymuned leol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Sied Dynion Pontypridd, ewch i'w tudalen we.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau 'Shed Awards', ewch i: UK Men's Shed Awards 2024 - UKMSA Men's Sheds Association
Rhondda Cynon Taf O Blaid Pobl Hŷn
Mae Sied Dynion Pontypridd yn un o nifer o fentrau o blaid pobl hŷn sydd ar waith ar draws y Fwrdeistref Sirol. Cafodd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei gydnabod yn rhan o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau O Blaid Pobl Hŷn yn gynharach eleni. Cafodd y rhwydwaith yma'i sefydlu yn 2010, gan gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau yn fyd-eang.
Mae aelodau'r rhwydwaith yn ymrwymo i wneud eu cymunedau'n lleoedd rhagorol i heneiddio ynddyn nhw trwy wella amgylcheddau sydd o blaid pobl hŷn, yn ogystal â hyrwyddo heneiddio'n iach ac ansawdd bywyd da i drigolion hŷn.
Mae modd i chi gael gwybod rhagor am aelodaeth y Cyngor yma: Rhondda Cynon Taf O Blaid Pobl Hŷn | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 04/12/2024