Skip to main content

Cynigion i wella diogelwch ffordd ar brif lwybr yng Nghwm Cynon yn cael eu hystyried

roads two

Mae Swyddogion y Cyngor wedi cynnal adolygiad amodau traffig ffordd ar hyd yr A4059 rhwng Cylchfan Abercynon a Chwm-bach, yn dilyn cynnydd mewn gwrthdrawiadau ffordd difrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mewn ymateb, mae swyddogion y Cyngor wrthi’n datblygu cynigion i hyrwyddo a gwella diogelwch ffordd mewn rhannau allweddol ar y briffordd yma drwy Gwm Cynon.

Mae gyda'r A4059 rhwng Abercynon a Chwm-bach ddwy ran 'Terfyn Cyflymder Cenedlaethol' (i'r gogledd ac i'r de o Aberpennar). Am ei bod yn ffordd un lôn i'r ddau gyfeiriad, mae ganddi derfyn cyflymder o 60mya ar gyfer ceir a beiciau modur, a therfyn cyflymder o 50mya ar gyfer cerbydau trymach. Yn ôl y data gwrthdrawiadau ffordd ac anafiadau diweddaraf sydd ar gael mewn perthynas â'r bum mlynedd ddiwethaf, mae sawl achos difrifol a thrist o wrthdrawiadau angheuol wedi bod ar y llwybr yma - gyda chyflymder uchel yn ffactor mewn cyfran uchel ohonyn nhw.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi comisiynu cyfrifyddion traffig awtomatig, sy'n cofnodi cyflymder modurwyr ar rannau 'Terfyn Cyflymder Cenedlaethol' yr A4059 dros gyfnod saith diwrnod o hyd. Cyflymder cyfartalog modurwyr oedd 48mya, sy'n is na'r terfyn cyflymder. Fodd bynnag, roedd 15 achos lle'r oedd modurwyr yn teithio ar gyflymder o 100mya neu uwch, gydag un cerbyd wedi'i nodi yn teithio ar gyflymder o 127mya.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae swyddogion y Cyngor yn adolygu'r A4059 ar hyn o bryd. Dyma'r briffordd rhwng Abercynon a Chwm-bach. Eu bwriad oedd bwrw golwg agos ar sut mae modd gwella diogelwch ar y ffordd, Mae'r data diweddaraf yn nodi cynnydd mewn gwrthdrawiadau anafiadau personol difrifol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd yn nifer yr achosion o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol - gyda chyflymder uchel yn ffactor mewn cyfran uchel ohonyn nhw.

"Mae archwiliad diweddar i gofnodi cyflymder modurwyr yn y rhannau 'Terfyn Cyflymder Cenedlaethol' wedi nodi bod y mwyafrif o yrwyr yn teithio ar gyflymder is na'r terfyn cyflymder. Fodd bynnag, roedd rhai achosion lle'r oedd modurwyr nid yn unig yn teithio ar gyflymder uwch na'r terfyn cyflymder, ond yn teithio ar gyflymder peryglus iawn oedd dros ddwywaith y terfyn cyflymder cenedlaethol - sy'n eithriadol o beryglus ac yn amlwg yn annerbyniol. 

“Byddai unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o ganlyniad i'r adolygiad yn ceisio mynd i'r afael â hyn, yn hytrach na'r mwyafrif o bobl sy'n teithio ar gyflymder cyfrifol. Mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd gan swyddogion, a bydd y Cyngor yn adrodd deilliannau'r broses yma mewn da bryd."

Wedi ei bostio ar 10/12/2024