Bydd y Cyngor yn dechrau cynllun gwaith ar draws sawl stryd ym Mhont-y-clun, er mwyn gwella diogelwch cerddwyr yn y gymuned. Bydd y gwaith yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd, a bydd yn ategu'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysg newydd sy'n cael eu darparu ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun.
Bydd gwaith yn cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 6 Ionawr i adeiladu ystod o fesurau cerdded penodol ar lwybrau cerdded poblogaidd er mwyn i deuluoedd gerdded nôl ac ymlaen o'r ysgol gynradd leol. Mae'r safleoedd gwaith yn cynnwys Heol-y-Felin, Ffordd Talygarn, Heol y Bont-faen, Coedlan y Palalwyf, Heol yr Orsaf, Heol y Gastan, Rhodfa Cerdin, Stryd Stuart, Ffordd Llantrisant a Stryd yr Ysgol.
Bydd y gwaith yn amrywio ar draws nifer o safleoedd. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod pafinau botymog, cael gwared ar beryglon cwympo fel cyrbiau uwch, lleihau radiws cyffyrdd er mwyn i gerbydau fynd yn fwy araf, gosod wyneb newydd ar lwybrau troed a ffyrdd lle bo angen, gosod mesurau gostegu traffig – er enghraifft ehangu cyffyrdd penodol.
Bydd Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn elwa o brif adeilad newydd o'r radd flaenaf ar ei safle presennol, diolch i fuddsoddiad sylweddol drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol – sef ffrwd refeniw Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae'r cam adeiladu ar gyfer yr adeilad deulawr yn mynd rhagddo'n dda, a'r bwriad yw bydd yn cael ei gwblhau ddechrau gwanwyn 2025.
Bydd gwaith creu llwybrau mwy diogel yn cael ei gwblhau cyn agor adeilad newydd yr ysgol. Mae'r Cyngor wedi penodi Kordel Civils & Building Ltd yn gontractwr er mwyn cyflawni'r gwelliannau i gerddwyr yn yr wythnosau i ddod.
Bydd angen cyflwyno mesurau rheoli traffig amrywiol er mwyn i'r contractwr gwblhau'r gwaith o un safle i'r llall – ond dydyn ni ddim yn disgwyl bydd angen cau ffyrdd. Bydd ffensys yn cael eu rhoi o amgylch y safleoedd gwaith, a bydd cyfyngiadau ar droedffyrdd ar waith mewn rhai o'r lleoliadau. Fodd bynnag, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal bob amser, a bydd arwyddion yn dangos y ffordd lle bo'n briodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y gwaith ar y gweill, yn sgil buddsoddiad gan y Cyngor o tua chwarter miliwn o bunnoedd, yn gwella'r cyfleusterau lleol i gerddwyr ym Mhont-y-clun. Bydd y gwaith yn amrywio o wella pafinau a throedffyrdd i welliannau cyffyrdd penodol, gyda'r nod o leihau cyflymder cerbydau a hyrwyddo diogelwch.
"Rydyn ni'n disgwyl bydd y prif adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn agor ddechrau gwanwyn 2025, a bydd y gwaith llwybrau mwy diogel yn mynd law yn llaw â'r buddsoddiad yma, fel sydd wedi'i gyflawni mewn llawer o gymunedau sydd wedi elwa o gyfleusterau addysg newydd yn ddiweddar. Mae cynlluniau tebyg wedi'u cyflwyno yn Y Ddraenen-wen a Phentre'r Eglwys yn ystod 2024, tra bod ail gam y gwaith llwybrau diogel wedi dechrau yn Hirwaun yn ystod mis Tachwedd 2024.
"Bydd cynllun Pont-y-clun yn y Flwyddyn Newydd yn anelu at annog rhagor o bobl i gerdded wrth fynd a dod yn lleol. Mae hyn yn cynnig llawer o fanteision, o wella iechyd a lles, i leihau tagfeydd traffig a helpu'r amgylchedd. Bydd y gwaith fydd yn dechrau o 6 Ionawr yn digwydd ar draws sawl lleoliad – fodd bynnag, ac eithrio gwyriadau troedffordd lleol, dydyn ni ddim yn disgwyl bydd llawer o darfu ar y gymuned. Diolch ymlaen llaw i drigolion am eu cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 19/12/2024