Mae gwaith wedi'i gwblhau gan Trivallis ar yr hen Ysgol Meisgyn, gan ei thrawsnewid yn 11 o dai fforddiadwy ar gyfer y gymuned. Dechreuodd tenantiaid symud i mewn i'r adeilad ddydd Llun 16 Rhagfyr, a hynny mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Roedd y prosiect yma'n bosibl o ganlyniad i'r Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ddarparu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru.
Mae'r hen ysgol wedi cael ei thrawsnewid yn 10 o fflatiau ag un ystafell wely ac un tŷ â dwy ystafell wely, gan fynd i'r afael â'r angen lleol sylweddol am eiddo ag un ystafell wely. Mae 11 o leoedd parcio hefyd wedi cael eu hychwanegu at gefn y safle er mwyn mynd i'r afael â phryderon am barcio.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Rwy'n falch o weld bod gwaith ailddatblygu hen ysgol Meisgyn bellach wedi'i gwblhau gan Trivallis.
"Mae cynlluniau fel yr un yma yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i'n trigolion i ddarparu tai fforddiadwy o safon. Mae modd i ni wneud hyn trwy ddefnyddio cyllid o'r Grant Tai Cymdeithasol.
“Nid yw'n gyfrinach bod y DU yng ngafael argyfwng tai, gyda Rhondda Cynon Taf yn wynebu problemau tebyg i weddill y DU. Mae mynediad at dai i drigolion yn flaenoriaeth i ni, a byddwn ni'n parhau i ddarparu cyllid ar gyfer datblygiad tai y mae galw mawr amdanyn nhw.
“Rydyn ni wedi gweld nifer o brosiectau tai llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys troi eiddo gwag yn gartrefi y mae pobl wrth eu boddau'n byw ynddyn nhw, ond rydyn ni'n gwbl effro i'r ffaith bod nifer o bwysau o hyd.
“Rydyn ni'n falch o gefnogi Trivallis, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn y prosiect llwyddiannus iawn yma.”
Mynegodd Sarah Davies, Rheolwr Datblygu Trivallis, ei balchder o ran y cyflawniad: “Rydyn ni wrth ein boddau yn gweld y prosiect yma'n dod yn fyw. Bydd y cartrefi yma'n gwneud gwir wahaniaeth i bobl yn ardal Meisgyn y mae angen tai fforddiadwy arnyn nhw. Mae gweld y safle hanesyddol yma'n barod i groesawu pobl eto yn arbennig iawn. Hoffen ni ddiolch i Cartrefi a'r garfan ddylunio am gyflawni cynllun o safon mor uchel.”
Prynodd Trivallis yr adeilad ym mis Tachwedd 2019 ac aeth ati i ddylunio'r gwaith ailddatblygu'n ofalus er mwyn darparu cartrefi o safon uchel wrth gadw cymeriad unigryw yr adeilad.
Meddai Neil Phillips, Rheolwr Adeiladu Trivallis: “Mae'r prosiect yma'n ymwneud â mwy na thai yn unig; mae'n ymwneud â pharchu hanes Meisgyn wrth ddiwallu anghenion heddiw. Trwy gadw cymeriad yr ysgol, rydyn ni wedi creu rhywbeth sy'n cyfuno'r gorffennol â'r dyfodol mewn ffordd hyfryd.”
Wedi ei bostio ar 19/12/2024