Mae teuluoedd lleol bellach yn elwa ar ardal gofal plant fodern newydd sydd wedi cael ei chreu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau. Roedd hyn yn bosibl o ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau newydd yn yr ysgol yn ardal Beddau.
O ganlyniad i'r buddsoddiad gwerth £1.5m wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae dwy ystafell ddosbarth yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg wedi cael eu hailwampio er mwyn creu uned dosbarth meithrin a derbyn fodern sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Hefyd, mae nifer o ardaloedd eraill yn yr ysgol wedi cael eu hailfodelu er mwyn adeiladu estyniad unllawr newydd. Yn ogystal â hyn, mae offer chwarae newydd sbon i'w gweld yn yr ardaloedd allanol sy'n bodoli eisoes.

Mae staff a disgyblion wedi bod yn mwynhau'r ardaloedd newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ers mis Medi 2024, ac mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y prosiect yma.
Mae'r buddsoddiad, trwy Raglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, wedi galluogi Cylch Meithrin Beddau i weithredu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg llawn amser yn yr ysgol – gan gynnwys gwasanaeth gofal plant cofleidiol bob prynhawn. Y bwriad o ran symud y gwasanaethau i un lleoliad ac ynddo ragor o le, yw annog y plant i deimlo’n rhan o'r ysgol erbyn y byddan nhw'n cyrraedd yr oedran statudol ar gyfer mynychu’r ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Rydw i'n falch iawn bod pobl ifainc yn mwynhau'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau, a bod y buddsoddiad yma gyda Llywodraeth Cymru wedi galluogi Cylch Meithrin Beddau i wneud ei ddarpariaeth bresennol yn llawn amser. Mae'r amgylchedd dysgu yn cynnwys cyfleusterau'r 21ain Ganrif, gan fodloni safon uchel ein Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – yn ogystal â'n hystod o brosiectau ar y cyd ar draws rhaglenni buddsoddi Llywodraeth Cymru, sy'n parhau ledled y Fwrdeistref Sirol.
“Mae creu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg ychwanegol, gan gynnwys cynyddu mynediad at Gylch Meithrin lleol a chreu rhagor o leoedd mewn dosbarthiadau meithrin cyfrwng Cymraeg, yn flaenoriaethau allweddol yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd. Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi mewn cyfleusterau addysg gwerth miliynau o bunnoedd ar draws grwpiau oedran cynradd ac uwchradd – gan gynnwys prosiectau allweddol i gynyddu nifer y lleoedd yn YGG Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun yn 2022. Yn y cyfamser, agorodd YGG Awel Taf yn Rhydfelen ym mis Medi ac mae gwaith adeiladu safle ysgol newydd sbon ar gyfer YGG Llyn y Forwyn yn ardal Glynrhedynog bron â bod yn barod.
“Mae'r buddsoddiad diweddaraf yma ar gyfer cymuned Beddau wedi cynnwys nifer o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn nyluniad yr estyniad newydd. Mae'r rhain yn cynnwys ynni'r haul a'r gwynt, yn ogystal â systemau casglu dŵr glaw – sy'n cydymffurfio â'n nodau a chyfrifoldebau mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r cyfleusterau modern newydd i'w gweld yn wych ac rydw i'n falch bod y prosiect cyffrous yma wedi'i gyflawni yn unol â'r amserlen yn ystod y tymor presennol.”
Wedi ei bostio ar 13/12/2024