Mae'r Cabinet wedi cytuno i barhau â Chynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol y Cyngor am flwyddyn arall – i roi gostyngiad ychwanegol o hyd at £500 i oddeutu 500 o fusnesau sy'n gymwys ar gyfer cynllun Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru.
Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ers 2020/21, fel mesur dros dro i gefnogi busnesau megis siopau, tafarndai, bwytai, lleoliadau perfformio, campfeydd a gwestai. Cafodd ei gyflwyno i helpu busnesau yn ystod y pandemig ac mae’n parhau ar waith yn sgil pwysau economaidd parhaus. Bydd yn rhoi rhyddhad ardrethi busnes o 40% yn 2024/25 ar gyfer adeiladau sy'n cael eu meddiannu gan fusnesau cymwys.
Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi darparu ei Gynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol ei hun i roi cymorth ychwanegol i fusnesau Rhondda Cynon Taf sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch. Dyma fesur dewisol sydd, yn 2023/24, wedi cynnig rhyddhad ardrethi o hyd at £500 fesul busnes cymwys. Cyfanswm y cymorth a gafodd ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol yw £133,000 ar draws 402 o fusnesau.
Ar ddydd Mercher, 21 Chwefror, cytunodd y Cabinet ag argymhellion swyddogion i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2024/25. Cytunodd yr Aelodau hefyd i barhau â chynllun y Cyngor ei hun ar ei lefel bresennol o gymorth (hyd at £500 fesul busnes cymwys). Amcangyfrifir y bydd tua 500 o fusnesau yn gymwys ar gyfer y cynllun yma yn 2024/25.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wneud cais i'r Cyngor i gael eu hasesu ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.Bydd eu bil Ardrethi Annomestig yn cael ei addasu yn unol â hynny, gan gymhwyso'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ynghyd â chynllun y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol: “Rwy’n falch iawn bod Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i barhau â Chynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol y Cyngor yn y flwyddyn ariannol newydd, o fis Ebrill 2024. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cynllun lleol yma wedi cefnogi dros 400 o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf gyda hyd at £500 o ryddhad ardrethi, a hynny trwy fuddsoddiad gwerth £133,000 gan y Cyngor.
“Mae ein cynllun dewisol wedi darparu cyllid allweddol i fusnesau lleol sydd y tu hwnt i gymorth Cymru gyfan Llywodraeth Cymru yn y maes yma – gan ein bod ni'n gwybod bod busnesau wedi cael eu heffeithio’n fawr yn ystod y pandemig, ac wrth i heriau economaidd sylweddol barhau ar draws y sector.
“Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi blaenoriaeth ei Gynllun Corfforaethol i greu a chynnal canol trefi bywiog, trwy ddarparu pecyn cymorth i fusnesau. Mae’r rhain yn amrywio o gyllid sydd ar gael i helpu busnesau i wella blaenau eu siopau a’u hadeiladau, i gymorth i ailddefnyddio adeiladau gwag yn ein hardaloedd manwerthu. Mae’r cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer 2024/25, sy'n helpu oddeutu 500 o fusnesau, hefyd yn rhan bwysig o’r pecyn cymorth yma.
“Gyda'r cynllun bellach wedi'i gytuno a'i gynnwys yn ystyriaethau Cyllideb Refeniw'r flwyddyn nesaf, bydd swyddogion yn paratoi ar gyfer ei roi ar waith. Byddan nhw'n hyrwyddo manylion allweddol maes o law – gan gynnwys lefel y cymorth sydd ar gael, y meini prawf cymhwysedd, a manylion am sut i wneud cais. Bydd y rhain yn cael eu rhannu â busnesau, a hefyd yn cael eu rhannu ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.”
Roedd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet ddydd Mercher hefyd yn nodi nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig i Gynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, tra bod dau gynllun newydd hefyd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru – y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwelliannau a'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Rhwydweithiau Gwresogi.
Sylwch, er y cytunwyd i fabwysiadu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a pharhau â’r Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol yn 2024/25, mae cynlluniau’r flwyddyn gyfredol (ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth, 2024) ar agor i fusnesau wneud cais iddyn nhw o hyd. Fodd bynnag, bydd y cynlluniau hyn yn cau ar 31 Mawrth, 2024.
Dysgwch ragor am gymhwysedd a sut i wneud cais yma.
Wedi ei bostio ar 26/02/24