Bydd defnyddwyr y ffordd yn sylwi ar waith sy’n cael ei gynnal ar yr A4058, i'r de o ardal #Trehafod o wythnos nesaf ymlaen. Bydd pob rhan o'r gwaith sy'n galw am oleuadau traffig yn cael ei gynnal dros nos.
Bydd y Cyngor yn dechrau'r gwaith ddydd Llun, 4 Mawrth, yn rhan o’r Cynllun Ffyrdd Cydnerth a bydd yn cynnwys gwaith draenio hanfodol a gwella cydnerthedd ein ffyrdd yn ystod llifogydd.
Yn ystod cyfnodau o law trwm, rydyn ni'n deall bod problem yn y lleoliad yma o ganlyniad i nifer o gwlferi uwchben y rheilffordd sy’n gorlifo dros y wal gynnal.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros bum wythnos, a bydd yn gwella system ddraenio'r briffordd er mwyn cludo'r dŵr sydd wedi cronni i'r afon.
Bydd modd i gerbydau deithio i'r ddau gyfeiriad ar yr A4058 (Heol Gyfeillion) yn ystod y dydd.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo dros nos er mwyn cyflawni elfennau o’r gwaith sy'n galw am oleuadau traffig dros dro, a hynny er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned.
Mae'n debygol y bydd y gwaith dros nos yn achosi ychydig o sŵn, ond bydd mesurau i darfu cyn lleied â phosibl yn cael eu rhoi ar waith.
Mae'r cynllun yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Cronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, a bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 26/02/2024