Skip to main content

Lansio Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf

domestic abuse project logo

Ar 1 Chwefror 2024, cynhaliodd Cyngor Rhondda Cynon Taf achlysur i ddathlu lansiad Prosiect Ffyniant Gyffredin newydd ar gyfer Cam-drin Domestig yn y Gymuned gyda chyfle i weld y cerbyd. 

Yn bresennol yn yr achlysur roedd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd y Cyngor; y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor; y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau; Mr. Danny Gabbidon, Llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Cymru; Deb Critchley, Cynrychiolydd o Cymorth i Ferched Cymru; cydweithwyr o Wasanaethau Cam-drin Domestig RhCT yn ogystal â nifer o bartneriaid ac asiantaethau lleol a rhanbarthol.

Nod y Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned yw codi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol (VAWDASV) sy'n digwydd o fewn cymunedau lleol i leihau'r risg o niwed. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig yn effro i'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw a sut i gael cymorth. Ymhellach, nod y prosiect yw cefnogi’r agenda ‘atal a gwella’ i sicrhau bod ein cymuned yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol yn deall nad yw cam-drin domestig a VAWDASV byth yn dderbyniol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned newydd y Cyngor yn fenter ragorol sy’n ceisio ymgysylltu â chymunedau ar lawr gwlad i annog mwy o ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, eirioli dros ddioddefwyr, a chyfeirio unigolion at y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw wrth weithio i leihau risgiau eu sefyllfa.

“Roeddwn i'n falch iawn o gael agor lansiad y prosiect yma ddydd Iau, 1 Chwefror, lle cafodd cerbyd gwasanaeth pwrpasol newydd ei gyflwyno gan swyddogion y Cyngor. Bydd y cerbyd yn cefnogi gwaith y gwasanaeth ac yn darparu man diogel i ledaenu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r gymuned.

“Mae mor bwysig gweithio ar y cyd â sefydliadau partner i godi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig a VAWDASV, yn ogystal â sicrhau bod modd i ddioddefwyr gael mynediad at y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.”

Yn rhan o'r achlysur, roedd y cerbyd cam-drin domestig newydd ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Dyma'r cyntaf o nifer o achlysuron gan y bydd y cerbyd yn mynd i leoedd amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol yn ystod y misoedd nesaf. Lleoliad nesaf y cerbyd fydd Parc Manwerthu Tonysguboriau ddydd Mercher, 14 Chwefror. Nod y daith cerbyd yma yw tynnu sylw trigolion at fater cam-drin domestig, a hyrwyddo’r neges nad yw cam-drin domestig byth yn dderbyniol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yn yr achlysur lansio ar 1 Chwefror, darllenais y gerdd I Got Flowers Today gan Paulette Kelly, sy’n oroeswr cam-drin domestig. Mae’r gerdd bwerus yma, a ddarllenais am y tro cyntaf yn un o achlysuron cynharach y Cyngor ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn, yn tynnu sylw at yr heriau y mae dioddefwyr yn eu hwynebu yn y perthnasoedd camdriniol hyn.

“Nod Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned y Cyngor yw lleddfu rhai o’r heriau hyn trwy ddarparu gwybodaeth i’r gymuned ar sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig a VAWDASV, codi proffil ar draws y gymuned, a grymuso unigolion i gael llais, camu ymlaen, a derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

“Mae’r ystadegau ynghylch cam-drin domestig a thrais domestig yn gwbl frawychus. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd mae 1 o bob 3 menyw, neu tua 736 miliwn, yn destun trais corfforol neu drais rhywiol gan bartner agos, neu drais rhywiol gan rywun nad yw'n bartner. Yn fwy trawiadol fyth, bydd 1 o bob 4 merch ifanc rhwng 15 a 24 oed eisoes wedi profi trais gan bartner agos erbyn iddyn nhw gyrraedd canol eu hugeiniau.

“Fel sefydliad, ond hefyd fel cymuned, mae’n rhaid i ni geisio lleihau a dileu trais a chamdriniaeth yn llwyr drwy leihau’r risg i ddioddefwyr ac ymyrryd yn gynnar. Dyma’n union beth mae’r prosiect yn bwriadu ei gyflawni.”

Roedd presenoldeb Cymorth i Ferched Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn cefnogi’r dull cydweithredol cryf y mae’r prosiect wedi’i ddatblygu, sy’n sicrhau bod modd i wybodaeth allweddol am gam-drin domestig gyrraedd pobl ar lefel ehangach ar draws cymunedau Cymru.

Meddai Mr. Danny Gabbidon, Llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Roedd yn fraint i mi gael fy ngofyn i siarad yn lansiad Prosiect Cam-drin Domestig yn y Gymuned Cyngor RhCT ar 1 Chwefror.

“Mae mor bwysig ein bod ni'n rhoi lle diogel i unigolion siarad am eu profiadau, gan nad oes neb yn gwybod yn well sut i roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a VAWDASV na’r rhai sydd wedi’i brofi eu hunain.

“Mae’n bwysig ein bod ni'n cynnwys goroeswyr yn y sgyrsiau hyn i helpu sefydliadau i ysgogi newid. Mae’r prosiect yma'n gam gwych i’r cyfeiriad cywir i ddechrau newid y stigma sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a VAWDASV ac i greu dyfodol lle nad yw hwn bellach yn bwnc tabŵ.”

Bydd y fenter newydd gyffrous yma'n rhoi llwyfan i lywio darpariaeth gwasanaeth, cymorth ac ymyraethau yn y dyfodol ar gyfer y rhai sy'n wynebu risg neu'n profi cam-drin. Yn ogystal, bydd yn gwella gwasanaethau Cam-drin Domestig presennol y Cyngor i grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd fel dioddefwyr gwrywaidd, dioddefwyr oedrannus, unigolion Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol, unigolion LGBTQ+, a phobl ag anableddau.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gweithio gyda’n prosiect, neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â’r gwasanaeth drwy 01443 400 791.

Wedi ei bostio ar 13/02/24