Bydd gwaith gosod wyneb newydd yn Stryd yr Afon, Trefforest, yn cael ei gynnal y penwythnos yma, a hynny'n rhan o brosiect Pont Droed Castle Inn.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 7.30am a 5pm ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Mawrth – os bydd tywydd da.
Bydd angen cau Stryd yr Afon, o'i chyffordd uchaf â Stryd Fothergill hyd at ei chyffordd isaf â Stryd y Parc.
Bydd y llwybr amgen ar hyd Stryd Fothergill, Cylchfan Glyn-taf, yr A470, Cylchfan Glan-bad, Heol Ton-teg a Heol Llanilltud.
Mae'r ffordd sydd i'w chau a llwybrau amgen i'w gweld ar y map canlynol.
Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ond bydd mynediad i gerddwyr. Bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
O ran teithiau bysiau lleol, bydd Gwasanaethau 90 a 100 Edwards Coaches yn teithio ar hyd strydoedd cefn Trefforest, tuag at ardal Beddau, yn ystod oriau'r gwaith.
Nodwch y bydd gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd gyferbyn â Phont Droed Castle Inn ar Heol Caerdydd yn cael ei gwblhau'n hwyrach yn y prosiect yn dilyn gwaith Dŵr Cymru yn y lleoliad yma.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 28/02/24