Skip to main content

Cofiwch godi baw eich CI!

Mae Ysgol Gynradd y Darren-las ac Ysgol Gynradd Meisgyn yn Aberpennar wedi gweithio ar y cyd er mwyn annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol a chodi baw eu cŵn!

Cysylltodd athrawon a rhieni'r ysgolion â charfan Gorfodi Gofal y Strydoedd y Cyngor er mwyn cael gwybod pa gamau ychwanegol y byddai modd eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau nad yw perchnogion cŵn yn trin strydoedd ger eu hysgolion fel toiledau personol eu cŵn.

Yr wythnos yma aeth y garfan i ymweld â'r ardaloedd unwaith eto i sicrhau bod y neges yn glir i bawb. Aeth y garfan ati i baentio arwyddion 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' ger gatiau'r ysgol gan hefyd sicrhau bod y negeseuon i'w gweld yn glir yn y strydoedd cyfagos. Yn ogystal â hynny, mae'r garfan wedi cynyddu pa mor aml y maen nhw'n cynnal patrolau o'r ardaloedd i gadw llygad barcud ar berchnogion cŵn. Mae gan y Cyngor ffurflen ar-lein benodol ar gyfer nodi manylion perchnogion sy'n ymddwyn yn anghyfrifol dro ar ôl tro - www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn. Mae'r Cyngor yn defnyddio'r wybodaeth yma i ddal troseddwyr yn torri'r rheolau!

Bydd staff Gorfodi Gofal y Strydoedd hefyd yn gweithio oriau estynedig i sicrhau na fydd modd i berchnogion cŵn anghyfrifol ddod o hyd i unrhyw le i guddio – hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu!

Mae methu â chodi baw eich ci neu dorri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor (PSPO) yn golygu bod modd i berchnogion cŵn anghyfrifol dderbyn dirwy o £100, ac mae methu â thalu'r ddirwy yn gallu arwain at gamau cyfreithiol a dirwy fwy. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Baw cŵn yn agos i ysgolion oedd un o brif bwyntiau’r Gorchymyn (PSPO) pan gafodd ei roi ar waith yn Rhondda Cynon Taf CHWE blynedd yn ôl. Y rheswm dros hynny oedd oherwydd bod baw yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth ar waelod esgidiau'r plant yn aml. Mae nid yn unig yn ffiaidd ac yn oedi athrawon rhag dysgu ond mae’n gallu arwain at ganlyniadau iechyd difrifol sy'n newid bywyd rhywun.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Y gobaith yw y bydd y negeseuon yma'n atgoffa unigolion i godi baw eu cŵn a dilyn rheolau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae gyda ni lawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwybod nad oes angen eu hatgoffa nhw. Serch hynny, mae yna nifer o bobl y mae angen eu hatgoffa o hyd. Mae'r neges yn glir - rhowch faw ci mewn bag ac mewn bin a pheidiwch â gadael i'ch ci gerdded ar gaeau chwarae, ar dir ysgolion nac ardaloedd chwarae.

"Os ydy perchnogion cŵn yn anwybyddu'r negeseuon yma a chael eu dal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100. Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus eu cyflwyno CHWE blynedd yn ôl ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod nhw am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys ardaloedd fel ysgolion, mannau chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a chaeau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a pherchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn ymddwyn yn gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CwnynBaeddu

Mae modd i drigolion, ysgolion a chlybiau chwaraeon roi gwybod am faw cŵn ar-lein yma www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â llefydd sydd wedi’u gwahardd. Ewch i  www.rctcbc.gov.uk/CiamDro

Wedi ei bostio ar 25/01/2024