Skip to main content

Clirio safle'r hen gartref gofal yn ardal Gelli ar gyfer gwaith datblygu yn y dyfodol

Bronllwyn specialist accommodation gelli

Mae gwaith dymchwel safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn wedi ailddechrau, fel bod modd ei ddatblygu'n llety gofal arbenigol modern i oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu.

Roedd cyfnod heb unrhyw waith dymchwel ar y safle oherwydd daeth cwmni'r contractwr dymchwel blaenorol i ben. Roedd y contractwr dan sylw wedi cwblhau gwaith gwacáu'r adeiladau. Bydd pob adeilad nawr yn cael ei ddymchwel, gan gynnwys cael gwared ar sylfeini, a bydd holl ddeunyddiau'r gwaith dymchwel yn cael eu symud o'r safle.

Ar ôl cwblhau'r cam dymchwel, bydd y safle ar Heol Colwyn yn barod i'w ddatblygu. Rhoddodd y Cyngor ganiatâd cynllunio ym mis Ebrill 2023 er mwyn adeiladu llety gofal arbenigol newydd sy'n cynnwys 13 ystafell wely ag ystafell ymolchi ac ystafell seibiant. Bydd gan yr adeilad lawr is, llawr gwaelod a llawr cyntaf. Bydd iard i orllewin yr adeilad, a bydd y maes parcio a mynediad i'r safle yn aros fel y maen nhw.

Bydd y datblygiad yn cynnwys cyfleusterau modern, gan gynnwys cyfleuster golchi dillad, ystafell i staff, tair ystafell oriau dydd, tair ystafell synhwyraidd, cegin fasnachol, toiledau, ardal nyrs, ardal trin gwallt, ystafell ymolchi hygyrch ac ystafell hyfforddi. 

Mae'r broses ail-dendro ar gyfer y prif gontract datblygu hefyd wedi dod i ben yn ddiweddar. Ar hyn o bryd mae disgwyl i'r contractwr llwyddiannus ddechrau'r cam adeiladu ar y safle ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau'r haf yn 2024. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion ar ôl i ni gadarnhau'r trefniadau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'n newyddion cadarnhaol iawn bod gwaith dymchwel hen adeiladau Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn wedi ailddechrau ar y safle. Yn dilyn y newyddion bod cwmni'r contractwr blaenorol wedi dod i ben, mae swyddogion wedi gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i ailddechrau'r prosiect cyffredinol cyn gynted â phosibl. 

“Mae Aelodau'r Cabinet eisoes wedi cytuno ar becyn cyllid sylweddol gwerth £4.9 miliwn ar gyfer y prosiect cyffrous yma yn ardal Gelli. Bwriad y prosiect yw mynd i'r afael eto â diffyg llety gofal preswyl arbenigol yn yr ardal leol. Mae'r prosiect yn rhan o raglen gyfalaf ehangach ledled y Fwrdeistref Sirol fydd yn gwireddu'n hymrwymiad i foderneiddio cyfleusterau gofal preswyl lleol.

“Mae'r rhaglen yma ar wahân i fuddsoddiad gwerth £60 miliwn a gafodd ei gytuno gan y Cabinet y llynedd, gan ddangos ein hymrwymiad i gadw pum cartref gofal sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor ac adeiladu llety o'r radd flaenaf yn Nhreorci, Glynrhedynog ac Aberpennar – mae pob un yn darparu rhagor o welyau gofal ychwanegol. Bydd llety modern i oedolion ag anableddau dysgu hefyd yn cael ei adeiladu ym Mhentre'r Eglwys.

“Gyda cham dymchwel y cynllun yn ardal Gelli yn ailddechrau, mae'r Cyngor hefyd wedi bod yn symud y broses ail-dendro yn ei blaen er mwyn penodi contractwr newydd ar gyfer y prif gam adeiladu. Mae cynnydd da wedi cael ei wneud o ran hyn. Ar hyn o bryd, mae'r prosiect cyffredinol yn gwneud cynnydd tuag at ddechrau'r prif waith datblygu ar y safle erbyn dechrau'r haf eleni.”

Wedi ei bostio ar 26/01/24