Skip to main content

Cyflawni gwelliannau ar hyd coridorau bysiau lleol Aberdâr

Bus stops investment grid - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith barhaus i wella safleoedd bysiau lleol ar hyd sawl llwybr allweddol yn ardal Aberdâr, gan ddefnyddio cyllid a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd dyraniadau’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer 2023/24 ym mis Medi 2023, a llwyddodd y Cyngor i sicrhau tua £200,000 o gyllid ar gyfer gwella safleoedd bysiau o dan y Cynllun Blaenoriaeth Bysiau. Mae’r rhaglen waith yn cael ei chyflwyno mewn tri cham, gan ganolbwyntio ar wella 106 o safleoedd bysiau yn Aberdâr ac ar hyd coridorau bysiau lleol yn y cymunedau cyfagos.

Mae camau un a dau o'r rhaglen bellach wedi'u cwblhau i raddau helaeth. Mae'r gwaith ym mhob safle bws yn amrywio o osod cyrbau uwch newydd i fynd ar fysiau, cysgodfa bysiau, marciau ffordd ac arwyddion lle bo angen. Bydd baneri safleoedd bysiau newydd hefyd yn cael eu gosod yn fuan. Mae gwelliannau eraill yn canolbwyntio ar amgylchynau uniongyrchol y safleoedd, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hygyrch i bawb.

Mae'r llun uchod yn dangos tri lleoliad a fydd yn derbyn cyfleusterau newydd o dan y rhaglen barhaus – Rhes y Glowyr a Corner House (Ffordd Merthyr) yn Llwydcoed a safle bws Golden Post ym mhentref Cwm-bach.

Mae gwaith cam tri bellach ar y gweill, a bydd gwelliannau’n cael eu cyflawni yn y lleoliadau pellach yn ystod gweddill 2023/24 (yn dod i ben ym mis Mawrth 2024).

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol trwy ei Gynllun Gwella Coridor Bysiau Strategol, i wella hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol a gwella ansawdd cyfleusterau. Cyflawnwyd buddsoddiad o’r fath ar y llwybr rhwng y Porth, Tonyrefail a Gilfach Goch yn 2022/23, a oedd yn dilyn rhaglen flaenorol rhwng Abercynon ac Aberaman.

“Mae’r Cyngor wedi croesawu dyraniad cyllid 2023/24 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau pellach i safleoedd bysiau yn Aberdâr a’r cyffiniau. Ategwyd hyn gan gyllid y Cyngor i ddarparu cyfanswm buddsoddiad o tua £222,000. Rwy’n falch bod cynnydd da wedi’i wneud ers i’r gwaith ddechrau fis Mehefin diwethaf, gyda thua dwy ran o dair o’r rhaglen bellach wedi’i chyflwyno. Mae'r trydydd cam a'r cam olaf ar y gweill a'r bwriad yw cwblhau'r gwaith ym mis Mawrth.

“Nod y buddsoddiad yw cynyddu nifer y safleoedd bysiau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb, gan sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb. Rydyn ni hefyd yn anelu at greu rhagor o gyfleusterau deniadol, gan gynnwys mannau aros, i annog mwy o bobl i ddal y bws yn rheolaidd yn rhan o’u teithiau dyddiol – i helpu i leihau tagfeydd traffig a gwella’r amgylchedd.”

Yn 2023, cyflwynodd y Cyngor gyfnodau o deithio rhatach ar fysiau i drigolion – gyda phob taith un ffordd sy’n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio uchafswm o £1. Cafodd y rhain eu cynnal am gyfnod o chwe wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac yn ystod mis Rhagfyr. Mae cynlluniau tebyg ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried, gyda chyllid pellach ar gael i'r Cyngor gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Wedi ei bostio ar 15/01/24