Bydd defnyddwyr y ffordd yn sylwi ar waith ar yr A4058 rhwng Trealaw a Dinas o'r wythnos nesaf, yn rhan o gynllun gwella draeniau Ffyrdd Cydnerth.
Bydd y gwaith yn dechrau yn y lleoliad yn y llun (cyferbyn â Pinetree Car Sales) o ddydd Llun 8 Ionawr ac yn para tua 5 wythnos.
Bydd modd i draffig deithio i'r ddau gyfeiriad yn ystod y cynllun, gyda chyfyngiadau cyflymder dros dro ar waith trwy ardal y gwaith i sicrhau diogelwch.
Bydd gwaith y cynllun yn cynnwys adeiladu system ddraenio hidlo newydd ar y glaswellt wrth ochr y ffordd er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Mae'r cynllun yn defnyddio cyllid Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru gydag ychydig o arian cyfatebol gan y Cyngor. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor.
Diolch am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 05/01/24